Ganwyd Evans yn ffermdy o'r enw Gellillyndu, Llanddewibrefi, Ceredigion yn blentyn i Evan Davies ac Elinor Daniel, ei wraig. Roedd y teulu yn un efo gwreiddiau dwfn yn hanes Anghydffurfiaeth Gymreig. Roedd y ddau riant wedi bod yn aelodau o gynulleidfa Daniel Rowlands ac roedd ei daid tadol wedi mynychu'r gyfeillach gyntaf erioed a gynhaliwyd gan Rowlands yn eglwys Llangeitho. Daeth teulu ei fam dan ddylanwad Piwritaniaeth trwy weinidogaeth Walter Caradog yn gynnar yn y 17 ganrif.[2] Pan oedd Evans yn faban ifanc cafodd y frech wen a achosodd iddo golli golwg mewn un llygad. Ac eithrio dysgu darllen cartref ac yn yr ysgol Sul ni chafodd unrhyw addysg ffurfiol, er hynny bu yn ddarllenwr medrus o oedran ifanc iawn, bu hynny'n moddion iddo hunan addysgu. Ymunodd â Eglwys Llangeitho pan oedd yn wyth mlwydd oed.
Gyrfa
Yn ôl arfer y dyddiau cyn daeth mynychu ysgol yn orfodol, dechreuodd Evans gynorthwyo ar fferm ei dad o'i blentyndod. Ym 1824, pan oedd yn 20 ymadawodd a'r fferm deuluol gan symud i Bont-y-pŵl i gadw ysgol. Dim ond flwyddyn bu yno cyn i afiechyd difrifol ei orfodi i ddychwelyd adref i gael adferiad. Tra ei fod adref bu gweinidogion y cylch yn ymweld ag o yn rheolaidd, rhag ofn ei fod yn ei gystudd olaf, ac yn synnu o gwrdd â dyn ifanc heb addysg ffurfiol a oedd yn ddigon hunan addysgedig i gynnal ysgol. Awgrymwyd iddo y dylid defnyddio ei ddoniau naturiol i bregethu. Dechreuodd bregethu yn Llangeitho tua 1825.
Wedi adferiad ei iechyd symudodd Evans yn ôl i Went gan ail agor ei ysgol yn y Goetre Fawr, lle fu tua dwy flynedd cyn symud ei ysgol i Nant-y-glo. Ychydig wedi symud i Nant-y-glo derbyniwyd Evans yn aelod o Gymdeithasfa Methodistiaid CalfinaiddSir Fynwy ym 1830.
Roedd Evans yn gefnogwr brwd i fudiad yr ysgol Sul ac i roi addysg ddyddiol i blant, gan olygu'r cyhoeddiad misol, Cyfaill Plant, o 1835. Ar ôl 1830 daeth yn un oedd yn llwyr ymwrthod a'r ddiod gadarn ac roedd yn eiriolwr pwerus dros yr achos dirwest gan ddioddef erledigaeth gan rai oherwydd ei farn.[3]
Roedd bod yn aelod o Gymdeithasfa yn caniatáu i bregethwr mynd ar deithiau pregethu y tu allan i'w fro ei hun. Galliasai teithiau pregethu bod yn gostus ofnadwy. Roedd rhaid talu am gadw a bwydo ceffyl ac, oni bai bod dyn ag incwm annibynnol neu'n eiddo ar fusnes teuluol megis fferm neu siop, roedd rhaid cael arian i dalu am gadw teulu. Roedd disgwyl i gefnogwyr, capeli a chymdeithasfaoedd yr ardaloedd ymwelodd pregethwr iddi ddigolledu'r pregethwyr. Oherwydd nad oedd gan Evans incwm neu fodd i godi arian yn annibynnol tra ar daith, bu anghydfod aml rhyngddo a chynrychiolwyr y capeli am faint ei dreuliau, gyda rhai yn ei gyhuddo o dwyllo wrth wneud hawliadau am ddigolledon.[4] Bu hefyd cyhuddiadau yn ei erbyn o gam drin eiddo'r gymdeithasfa at ei fuddion ei hun.[5]
Wedi cael llond bol o gwynion am dreuliau fel pregethwr teithiol, ymadawodd Evans a'r Methodistiaid ac ymuno â'r Annibynwyr. Ymunodd ag Eglwys yr Annibynwyr yng Nghendl, Sir Frycheiniog ym 1847. Ym 1852 derbyniodd alwad i fod yn weinidog cyflogedig yn Llan-giwg, ger Pontardawe. Symudodd i fod yn weinidog ar gynulleidfaoedd Rhisga a Machen, rhwng 1857 a 1860, a oedd yn cwrdd mewn annedd dai. Goruchwyliodd adeiladu capel newydd ar eu cyfer. Wedi sicrhau agor y capel newydd aeth yn ôl i ddysgu llawn amser yn Nant-y-glo, yn bennaf er mwyn rhoi cyfle i'w meibion dod yn ddisgybl athrawon (athrawon dan hyfforddiant mewn ysgol) iddo.[6]
Ym 1837 aeth tad a rhai o frodyr a chwiorydd Evans i America. Gan fod ei blant bellach wedi tyfu fyny a mynd allan i'r byd penderfynodd Evans i ymuno â hwy ym 1869.[7] Sefydlodd ei hun yn Oak Hill, Ohio. Wedi cyrraedd cafodd cynnig bod yn weinidog ar gapel mawr y ddinas a chapeli eraill yn Jackson County, ond gwrthododd derbyn y cyfan, er hynny bu'n teithio i bregethu yng nghapeli pob enwad anghydffurfiol yn y sir a llefydd cyfagos.
Yn Oak Hill bu Evans yn byw drws nesaf i Margaret ei ferch a'i gŵr, John Hutchings (Carodog Gwent), baswr lled enwog yn ei fro.[8] Symudodd y teulu Hutchings i Curtis, Clark County, Arkansas tua diwedd y 1870au. Ym 1881 aeth gwraig Evans yn ddifrifol wael a symudodd y cwpl i Curtis er mwyn i Margaret roi gofal iddi. Gan nad oedd capel Cymraeg yn Nhalaith Arkansas, sefydlodd Evans un yn Curtis a fu'n weinidog arni hyd ei farwolaeth.
Cyhoeddiadau
Bu Evans yn gyfrannwr cyson i'r cylchgronau Cymraeg yng Nghymru a'r America. Cyhoeddodd hefyd nifer o lyfrau gan gynnwys:
1842Ffordd Duw yn y Cyssegr a'r Môr, crynhoad o amryw bregethau
1843Tystiolaeth Ostyngedig i Ddaioni a Thoster Duw, cyfieithiad o lyfr gan John Owen, D.D.
1845Corff Duwinyddiaeth sef Golwg Gryno ar Grefydd Naturiol a Datguddiedig, cyfieithiad o A compendious view of Natural and Revealed Religion, John Brown
1847 Arweinydd i iawn ddeall ymadroddion Duw neu Allwedd i'r Bibl, cyfieithiad o A brief concordance to the Holy Scriptures, John Brown
1847Prawf o Gynnydd y Cristion, cyfieithiad o The Tryall of a Christian's Growth, Thomas Goodwin
1849Codiad a Chwymp Pabyddiaeth, cyfieithiad o The Rise and Fall of Papacy, Robert Fleming
1862Crefydd Gymdeithasol, cyfieithiad o Social Religion exemplify'd, Mathias Maurice,
1865 a 1866Athrawiaeth a Dyledswydd, dwy gyfrol o bregethau
Ar adeg ei farwolaeth roedd ar ganol ysgrifennu hunangofiant Adgofion Pedwar Ugain Mlynedd. Cyhoeddwyd yr hyn roedd wedi llwyddo gwneud yng nghylchgrawn ei fab Cyfaill yr Aelwyd.[9]
Teulu
Ym mis Mawrth 1830 priododd Evans a Mary William Valentine, y Goetre, bu iddynt saith o blant. Mab iddynt oedd Beriah Gwynfe Evans yr awdur, dramodydd, newyddiadurwr a gwleidydd.[10]. Eu mab ieuengaf oedd y traethodydd Joshua Evans (Alltud Gwent).[11]
Marwolaeth
Bu farw Mary Evans yn Curtis, Arkansas ym mis Ionawr 1886 a bu Evan Evans marw ychydig ar ei hôl ym mis Hydref yr un flwyddyn.[12]