Eva Braun |
---|
|
Ganwyd | Eva Anna Paula Braun 6 Chwefror 1912 München |
---|
Bu farw | 30 Ebrill 1945 Führerbunker |
---|
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, yr Almaen Natsïaidd |
---|
Galwedigaeth | ffotograffydd, photo lab technician, model |
---|
Cyflogwr | - Heinrich Hoffmann
|
---|
Tad | Friedrich Braun |
---|
Mam | Franziska Braun |
---|
Priod | Adolf Hitler |
---|
Partner | Adolf Hitler |
---|
Perthnasau | Hermann Fegelein, Paula Hitler, Angela Hitler, Ida Hitler, Otto Hitler, Gustav Hitler, Alois Hitler, Edmund Hitler, Klara Pölzl, Alois Hitler |
---|
llofnod |
---|
|
Eva Braun (6 Chwefror 1910 – 30 Ebrill 1945) oedd meistres Adolf Hitler. Roedd hi'n enedigol o München yn Bafaria, de'r Almaen. Roedd hi'n ysgrifenyddes i ffotograffwr ar staff Hitler ac ar ôl peth amser dechreuodd hi fod yn feistres i Hitler. Am ddeuddeg mlynedd neu ragor roedd hi'n ganolog i fywyd personol yr unben, yn ôl tystion o'r cyfnod. Ymddiddorai mewn tynnu lluniau ("y Ferch Rollei" oedd ei llysenw, ar ôl y camerau Rollei) ac mae cyfran fawr o'r lluniau o fywyd personol Hitler yn ffrwyth ei difyrwaith. Roedd hi hefyd yn hoff o dorheulio'n noethlymun (roedd noethlymiaeth yn boblogaidd iawn yn yr Almaen yn y cyfnod Natsïaidd). Lladdodd ei hun, gyda Hitler, yn y byncer yn Berlin ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae rhai haneswyr yn dweud bod Eva Braun a Hitler wedi priodi cyn y diwedd.