Cynhaliwyd Etholiad Catalwnia, 2017 ar 21 Rhagfyr2017, sef 12fed Llywodraeth y wlad, gan ddilyn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015. Enillodd y tair plaid dros-annibyniaeth fwyafrif y seddau: 70 allan o 135 sedd.
Yn wahanol i'r etholiadau o'i blaen, galwyd yr etholiad gan Lywodraeth Sbaen, wedi iddynt ddiddymu Llywodraeth Catalwnia ar 27 Hydref 2017, yn dilyn Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 pan bleidleisiodd 91.9% dros annibyniaeth. Galwyd yr etholiad gan Sbaen. Credai Brif Weinidog Sbaen Mariano Rajoy Breyy byddai'r mwyafrif o'r etholwyr yn pleidleisio dros bleidiau a oedd yn gwrthwynebu annibyniaeth, ond nid felly y bu, ac roedd y canlyniad yn embaras mawr iddo. Collodd plaid Rajoy 7 sedd, gan ddal eu gafael ar ddim ond tair sedd.
Ar ddiwrnod yr etholiad, a'r cyfnod a oedd yn arwain ato, roedd nifer o'r ymgeiswyr dros-annibyniaeth naill ai ar ffo yng Ngwlad Belg neu wedi eu carcharu gan Brif Lys Sbaen. Carcharwyd wyth o'r arweinyddion, gan gynnwys y cyn Is-Lywydd (ac arweinydd yr ERC), Oriol Junqueras heb fechniaeth; roedd Gwarant Ewropeaidd i Arestio nifer o arweinyddion a oedd wedi ffoi hefyd wedi'u cyhoeddi gan Sbaen, gyda Puigdemont a phedwar o'i Gabined yn ymgyrchu naill ai o garchar neu o wlad arall.
Cefndir
Wedi i Lywodraeth Catalwnia, ar 27 Hydref 2017, gyhoeddi eu bod yn sefydlu Gweriniaeth Catalwnia, ymatebodd Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, ei fod yn diddymu'r Llywodraeth ac yn galw Etholiad Cyffredinol - gyda'r bwriad o ethol rhagor o ASau a oedd o blaid cadw Catalwnia o fewn ffiniau presennol Sbaen. Cyhoeddodd Sbaen hefyd y byddent yn gwneud popeth i gesio 'dychwelyd' Catalwnia yn ôl i'w corlan, fel cymuned ymreolaethol, a dechreuwyd gweithredu cymal 155 o Gyfansoddiad Sbaen a roddai'r hawl iddynt wneud 'unrhyw beth sydd ei angen' i uno Sbaen.
Pleidiau
Trafododd pleidiau Catalwnia a ddylent gymryd rhan yn yr etholiad neu ei anwybyddu.[2][3][4]
Ar 5 Tachwedd 2017 etholodd Plaid Democratiaeth Ewropeaidd Catalwnia (PDeCAT) mai cyn-Lywydd y wlad, Carles Puigdemont, fyddai eu hymgeisydd, o Wlad Belg, ble roedd yn alltud - a hynny dan y faner 'Junts per Catalunya'.[5][6] Ymunodd PDeCAT gyda nifer o ASau Annibynnol i ffurfio plaid newydd o'r enw JuntsxCat (Gyda'n Gilydd Dros Catalwnia) gan alw ar amnest ar gyfer y "carcharorion gwleidyddol", sef prif swyddogion Llywodraeth Catalwnia a garcharwyd gan Sbaen.[7]
Refferendwm Catalunya: Argraffiadau gohebydd y BBC - roedd y Refferendwm a gynhaliwyd yn Hydref 2017 yn 'anghyfreithlon' medd Llywodraeth Sbaen; a hyn oedd y rheswm pam y bu iddynt alw Etholiad Catalwnia 2017.