Elizabeth Mrema |
---|
|
Ganwyd | 5 Ionawr 1957 Moshi Urban |
---|
Dinasyddiaeth | Tansanïa |
---|
Alma mater | - Prifysgol Dar es Salaam
- Prifysgol Dalhousie
- Centre for Foreign Relations
|
---|
Galwedigaeth | gwas sifil, cyfreithiwr |
---|
Cyflogwr | - Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig
|
---|
Gwobr/au | Medal Ryngwladol Kew |
---|
Mae Elizabeth Maruma Mrema (ganwyd 5 Ionawr 1957) yn gyfreithiwr materion bioamrywiaeth Tansanïaidd, a oedd yn 2023 yn gweithio ym Montreal, Canada. Penodwyd hi'n ysgrifennydd gweithredol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) yn 2020.[1][2] Hi yw'r fenyw Affricanaidd gyntaf i ddal y rôl hon;[1] cyn hynny bu ganddi nifer o swyddi lle roedd yn arwain, gan gynnwys Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig.
Addysg
Derbyniodd Mrema Radd Faglor yn y Gyfraith o Brifysgol Dar-es-Salaam yn Tansania, ac yna gradd Meistr yn y Gyfraith o Brifysgol Dalhousie yn Halifax, Canada a Diploma Ôl-raddedig mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a Diplomyddiaeth o'r Ganolfan Cysylltiadau Tramor a Diplomyddiaeth yn Dar-es-Salaam, Tansania.[3]
Gyrfa
Cyn dechrau gweithio gyda Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig (UNEP), bu Mrema'n gweithio i Weinyddiaeth Materion Tramor a Chydweithrediad Rhyngwladol Tansania, gan wasanaethu fel Cwnselydd/Uwch Gwnsler Cyfreithiol.[4] Bu hefyd yn darlithio mewn Cyfraith Ryngwladol Gyhoeddus a Diplomyddiaeth Cynadledda yng Nghanolfan Cysylltiadau Tramor a Diplomyddiaeth Tansania.[4]
Rhwng 2009 a 2012, bu'n gweithio mewn sefydliadau yn Bonn, yr Almaen.[4] Yn 2009, fe’i phenodwyd yn Ysgrifennydd Gweithredol Dros Dro UNEP/ASCOBANS (Gwaith ar anifeiliaid morol y Baltig, Gogledd-ddwyrain yr Iwerydd, Iwerddon a’r Gogledd) bu'n Ysgrifennydd Gweithredol UNEP/Ysgrifenyddiaeth y Confensiwn ar Gadwraeth Rhywogaethau Mudol Anifeiliaid Gwyllt (CMS), ac Ysgrifennydd Gweithredol Dros Dro Cytundeb UNEP/Gorila.[4]
Gwaith proffesiynol arall
Yn ogystal â rolau arwain, mae Mrema wedi gwasanaethu fel darlithydd pro bono yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Nairobi, ac yn flaenorol darlithiodd pro bono yn Sefydliad Cyfraith Datblygu Rhyngwladol (IDLO), Rhufain, yr Eidal.[4]
Mae hi wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ar gyfraith amgylcheddol ryngwladol ac wedi datblygu llawlyfrau a chanllawiau dylanwadol ar gyfer cytundebau amgylcheddol amlochrog yn ogystal â phynciau eraill ar gyfraith amgylcheddol.[4]
Anrhydeddau a gwobrau
Yn 2007, derbyniodd Wobr Rheolwr Gorau'r Flwyddyn UNEP, y gyntaf erioed (Gwobr Staff Baobab UNEP) "am berfformiad eithriadol ac ymroddiad tuag at gyflawni nodau UNEP".[4]
Yn 2021, dyfarnodd Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur sef IUCN (drwy WCEL), mewn cydweithrediad â Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (UNEP), Wobr Nicholas Robinson iddi am Ragoriaeth mewn Cyfraith Amgylcheddol.[5]
Yn 2022, dyfarnwyd Medal Ryngwladol Kew i Elizabeth gan y Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew am ei “gwaith hanfodol yn hyrwyddo pwysigrwydd cadwraeth bioamrywiaeth ac arwain y mecanwaith cyfraith ryngwladol bwysicaf ar gyfer defnydd cynaliadwy o fioamrywiaeth.[6]
Cyfeiriadau