Mae'r hawl i amgylchedd iach neu'r hawl i amgylchedd cynaliadwy ac iach yn hawl ddynol a hyrwyddir gan sefydliadau hawliau dynol a sefydliadau amgylcheddol i amddiffyn y systemau ecolegol sy'n darparu iechyd pobl.[1][2][3] Mae'r hawl yn gysylltiedig â hawliau dynol eraill sy'n canolbwyntio ar iechyd, megis yr hawl ddynol i ddŵr a glanweithdra, yr hawl i fwyd a'r hawl i iechyd.[4] Mae'r hawl i amgylchedd iach yn defnyddio dull hawliau dynol i amddiffyn ansawdd yr amgylchedd yn hytrach na theori gyfreithiol.[5]
Mae'r hawl yn gorfodi'r wladwriaeth i reoleiddio a gweithredu deddfau amgylcheddol, rheoli llygredd, a sicrhau cyfiawnder ac amddiffyn cymunedau sy'n cael eu niweidio gan broblemau amgylcheddol.[6] Mae'r hawl i amgylchedd iach wedi bod yn hawl bwysig ar gyfer creu cynseiliau cyfreithiol amgylcheddol ar gyfer cyfreithau newid yn yr hinsawdd a materion amgylcheddol eraill.[7][8]
Mae'r hawl i amgylchedd iach wrth wraidd y dull rhyngwladol o ymdrin â hawliau dynol a newid yn yr hinsawdd . Mae cytundebau rhyngwladol sy'n cefnogi'r hawl hon yn cynnwys Datganiad Stockholm 1972, Datganiad Rio 1992 , a'r Cytundeb Byd-eang mwy diweddar ar gyfer yr Amgylchedd.[9] Mae dros 150 o wledydd yn y Cenhedloedd Unedig wedi cydnabod yr hawl ar ryw ffurf trwy ddeddfwriaeth, ymgyfreitha, cyfraith gyfansoddiadol, cyfraith cytuniadau neu awdurdod cyfreithiol arall.[10] Mae dau gytuniad (''treaties'') rhanbarthol, Siarter Affrica ar Hawliau Dynol a Phobl a Chonfensiwn America ar Hawliau Dynol ill dau yn cynnwys hawl i amgylchedd iach.[11] Mae fframweithiau hawliau dynol eraill, fel y Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn yn cyfeirio at faterion amgylcheddol fel y maent yn ymwneud â ffocws y fframwaith, yn yr achos hwn hawliau plant.
Mae'r Rapporteurs Arbennig ar Hawliau Dynol a'r Amgylchedd John Knox (2012-2018) a David Boyd (2018-presennol) wedi gwneud argymhellion ar sut i ffurfioli'r hawliau hyn mewn cyfraith ryngwladol.[12] Cymeradwywyd hyn gan nifer o bwyllgorau ar lefel y Cenhedloedd Unedig, a chymunedau cyfreithiol lleol (h.y. Bar Dinas Efrog Newydd ) yn 2020.[13]
↑Shelton, Dinah (2002). Human Rights, Health & Environmental Protection: Linkages in Law & Practice. Health and Human Rights Working Paper Series No 1. World Health Organization.