Cyhoeddodd ystod eang o lyfrau, yn fwyaf arbennig bywgraffiadau Hannah Arendt ac Anna Freud. Enillodd ei bywgraffiad 1982 o Hannah Arendt Wobr Harcourt tra enillodd The Anatomy of Prejudices wobr Cymdeithas Cyhoeddwyr America am y Llyfr Gorau mewn Seicoleg ym 1996. Roedd hi'n aelod o Gymdeithas Seicdreiddiol Toronto ac yn gyd-sylfaenydd Caversham Productions, cwmni sy'n gwneud deunyddiau addysgol seicdreiddiol.[1][2][3][4][5]
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Sarah Lawrence, Prifysgol The New School, Manhattan.
[6]
Magwraeth
Roedd teulu Young-Bruehl’s ar ochr ei mam yn rhedeg fferm laeth ar dir ger pen Bae Chesapeake, ac yn weithgar yng ngwleidyddiaeth leol Maryland. Roedd tad a thaid ei mam (golygydd papur newydd) wedi bod yn ysgolheigion amatur gyda llyfrgell breifat fawr. Roedd ei mam-gu yn un o ddisgynyddion y Mayflower, yn rhan o deuluoedd Hooker a Bulkley yn Connecticut. O Virginia yr hanai teulu ei thad, ac roedd nifer wedi'u hyfforddi mewn Diwinyddiaeth yng Ngholeg William a Mary yn Williamsburg, Virginia.
Fe’i magwyd yn Maryland a Delaware, lle bu ei thad yn gweithio fel golffiwr proffesiynol.
Anrhydeddau
Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1986) .
Cyfeiriadau
↑Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.