Elin M. Jones

Elin M. Jones
Ganwyd20 g Edit this on Wikidata

Hanesydd ac athrawes o Gymru yw Elin M. Jones[1]

Mae hi'n wreiddiol o Ystrad Mynach.[2] Roedd hi'n athrawes yn yr ysgolion Preseli, Rhydfelen a Cwm Rhymni, ac wedyn swyddog addysg yn yr Amgueddfa Genedlaethol.

Priododd ei cyd-athro Gwyn Jones (bu farw 1994) ym 1980. Ar ôl marwolaeth Gwyn, daeth Elin yn gefnogwr i Hafal.[3] Yn 2009, daeth hi'n gadeirydd Hafal.

Yn 2014 cyflwynodd raglen S4C o'r enw Gwrthdaro Gwent, Stori'r Siartwyr, am hanes y mudiad Siartaidd.[4]

Bydd pob ysgol yng Nghymru yn cael copi o lyfr 2021 gan Jones, Hanes yn y Tir, i helpu i ddysgu disgyblion am hanes Cymru yn Saesneg a Chymraeg.[5]

Llyfryddiaeth

Fel golygydd

  • Gwaith Llywarch ap Llywelyn: Prydydd y Moch - Beirdd y Tywysogion (1991)

Fel awdures

  • Chwilio am...Gymru'r Saint: In Search of Wales and the Saints (1992)
  • Hanes yn y Tir (2021)[1] (Saesneg: History Grounded)[5]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 "Ystrad Mynach Historian's Welsh history book 'a game changer'". In Your Area (yn Saesneg). 4 Hydref 2021. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2021.
  2. "Ateb y Galw: Yr hanesydd Dr Elin Jones". BBC Cymru Fyw (yn Saesneg). 2 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2021.
  3. "How Hafal helped Elin to come to terms with her loss". WalesOnline (yn Saesneg). 9 Mai 2011. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2021.
  4. Jonathan Evans (20 Tachwedd 2014). "Historian to re-tell the story of Chartist uprising in S4C documentary". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Tachwedd 2021.
  5. 5.0 5.1 "Llyfr i bob ysgol i helpu athrawon a disgyblion i ddarganfod natur amrywiol a chymhleth hanes Cymru". Welsh Government. 23 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 2 Ionawr 2022.