The Piano Teacher, Women as Lovers, The Children of the Dead, Wonderful, Wonderful Times
Prif ddylanwad
Roland Barthes
Plaid Wleidyddol
Plaid Gomiwnyddol Awstria
Tad
Friedrich Jelinek
Priod
Gottfried Hüngsberg
Perthnasau
Walter Felsenburg
Gwobr/au
Gwobr Lenyddol Nobel, Gwobr Georg Büchner, Gwobr Walter Hasenclever o ddinas Aachen, Gwobr llawysgrifau, Gwobr Franz Kafka, Gwobr-Heinrich-Böll, Gwobr Stig Dagerman, Gwobr Llenyddiaeth Talaith Styria, Gwobr Dramor Mülheim, Gwobr Roswitha, Gwobr Peter-Weiss, Gwobr Celf Awstria ar gyfer Llenyddiaeth, Gwobr Lenyddiaeth Dinas Vienna, Gwobr Llenyddiaeth Dinas Bremen, Heinrich Heine Prize, Q1978511, Nestroy theater award/lifetime achievement, honorary citizen of Vienna, Cylch Anrhydedd talaith Styria, Awstria, Commandeur des Arts et des Lettres, Grand Cross of Honor for Services to the Republic of Austria
Awdures a dramodydd o Awstria yw Elfriede Jelinek (ganwyd 20 Hydref1946). Derbyniodd Gwobr Lenyddol Nobel, 2004 am "y llif o leisiau cerddorol, a gwrth-leisiau mewn nofelau a dramâu sydd, gyda sêl ieithyddol eithriadol, yn datgelu hurtrwydd ystrydebau cymdeithas a'u pwer i gadwyno pobl".[1]
Ganwyd Elfriede Jelinek ar 20 Hydref 1946 yn Mürzzuschlag, Styria, Awstria, yn ferch i Olga Ilona (g. Buchner), cyfarwyddwr personél, a Friedrich Jelinek. Fe'i magwyd yn Fienna gan ei mam Gatholig Rwmania-Almaeneg a'i thad Iddewig-Tsiec (y mae ei chyfenw "Jelinek" yn golygu "ewig" ("ceirw bach") yn Tsiec).[2][3][4][5][6][7][8][9]
Fferyllydd oedd ei thad, a lwyddodd i osgoi erledigaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd trwy weithio mewn llefydd diwydiannol o bwys strategol. Fodd bynnag, roedd llawer o'i berthnasau yn ddioddefwyr yr Holocost. Roedd ei mam, yr oedd ganddi berthynas anodd â hi, yn dod o deulu cefnog o Fienna.
Mynychodd Pamer aKonservatorium Wien.
Priododd Gottfried Hüngsberg ar 12 Mehefin 1974.[10][11] Dywedodd yn ddiweddarach:
“
I was 27; he was 29. I knew enough men. Sexuality was, strangely, the only area where I emancipated myself early on. Our marriage takes place in two cities. It's a kind of Tale of Two Cities in the Dickensian sense. I've always commuted between Vienna and Munich. Vienna is where I've always lived because my friends are here and because I've never wanted to leave Vienna. In the end I've been caught up here. Munich is my husband's city and so I've always traveled to and from, and that's been good for our marriage.[10]
”
Yr awdur
Ei gwaith llenyddol cyntaf oedd Lisas Schatten (Cysgodion Lisa) yn 1967, a derbyniodd ei gwobr lenyddol gyntaf ym 1969. Yn ystod y 1960au, daeth yn weithgar yn wleidyddol, a darllenodd lawer, a "threuliodd lawer iawn o amser yn gwylio'r teledu".
Mae gwaith Jelinek wedi'i wreiddio'n ddwfn yn nhraddodiad llenyddiaeth Awstria, gan ddangos dylanwad ysgrifenwyr o Awstria e.e. Ingeborg Bachmann, Marlen Haushofer, a Robert Musil.
Mae gogwydd gwleidyddol Jelinek, yn enwedig ei safbwynt ffeministaidd a'i chysylltiadau â'r Blaid Gomiwnyddol, yn hollbwysig i unrhyw asesiad o'i gwaith. Maent hefyd yn rhan o'r rheswm dros y feirniadaeth a gyfeirir at Jelinek a'i gwaith. Ond er hyn, mae Jelinek wedi ennill nifer o wobrau nodedig ac yn eu plith mae Gwobr Georg Büchner yn 1998; Gwobr Ddramodwyr Mülheim yn 2002 a 2004; Gwobr Franz Kafka yn 2004; a'r Wobr Nobel mewn Llenyddiaeth, hefyd yn 2004. Pynciau amlwg yn ei gwaith yw rhywioldeb merched, cam-driniaeth rhywiol, a brwydr y rhywiau yn gyffredinol.
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Piano Teacher, Women as Lovers a The Children of the Dead.
Aelodaeth
Bu'n aelod o Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg am rai blynyddoedd.
[12][13]
Anrhydeddau
Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Lenyddol Nobel (2004), Gwobr Georg Büchner (1998), Gwobr Walter Hasenclever o ddinas Aachen (1994), Gwobr llawysgrifau (2000), Gwobr Franz Kafka (2004), Gwobr-Heinrich-Böll (1986), Gwobr Stig Dagerman (2004), Gwobr Llenyddiaeth Talaith Styria (1987), Gwobr Dramor Mülheim (2002, 2004, 2009, 2011), Gwobr Roswitha (1978), Gwobr Peter-Weiss (1994), Gwobr Celf Awstria ar gyfer Llenyddiaeth (1983), Gwobr Lenyddiaeth Dinas Vienna (1989), Gwobr Llenyddiaeth Dinas Bremen (1996), Heinrich Heine Prize (2002), Q1978511 (2020), Nestroy theater award/lifetime achievement (2021), honorary citizen of Vienna (2023), Cylch Anrhydedd talaith Styria, Awstria (2023), Commandeur des Arts et des Lettres (2024), Grand Cross of Honor for Services to the Republic of Austria (2024)[14][15][16][17][18][19][20][21] .
↑Cyfieithiad o: "... her musical flow of voices and counter-voices in novels and plays that, with extraordinary linguistic zeal, reveal the absurdity of society's clichés and their subjugating power".
↑Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
↑Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, WikidataQ36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014