Mae elfennau grŵp 5 yn grŵp o elfennau yn y tabl cyfnodol. Metelau trosiannol ydy elfennau'r grŵp hwn. Yn nhrefn IUPAC mae grŵp 4 yn cynnwys: fanadiwm (V), niobiwm (Nb), tantalwm (Ta), a dwbniwm (Db).
Mae patrwm yr electronnau yn debyg rhwng aelodau unigol y teulu. yn enwedi ar du allan y gragen. Oherwydd hyn mae nhw'n ymateb yn debyg i'w gilydd ar wahân i niobiwm sy'n hollol wahanol i'r gweddill:
Z |
Elfen |
Nifer yr electronnau
|
23 |
fanadiwm |
2, 8, 11, 2
|
41 |
niobiwm |
2, 8, 18, 12, 1
|
73 |
tantalwm |
2, 8, 18, 32, 11, 2
|
105 |
dwbniwm |
2, 8, 18, 32, 32, 11, 2
|
Dim ond mewn labordy y gellir creu dwbniwm; dydy o ddim ar gael yn naturiol.