Edward Williams (diwinydd ac athro Annibynnol)

Edward Williams
Ganwyd1750 Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mawrth 1813 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ramadeg Llanelwy Edit this on Wikidata
Galwedigaethclerig, gweinidog yr Efengyl, tiwtor Edit this on Wikidata

Diwinydd ac athro annibynnol o Gymru oedd Edward Williams (14 Tachwedd 17509 Mawrth 1813). Ganwyd ef yn fab i Thomas ac Anne Williams o Glanclwyd, ger Dinbych. Derbyniodd ei addysg fore yn ysgolion gramadeg yn Llanelwy, Derwen a Caerwys. Roedd Thomas Jones (Dinbych) yn cyd-ddisgybl iddo yng Nghaerwys. Ymunodd a'r Methodistiaid wedi iddo glywed Daniel Rowland o Langeitho yn pregethu, ond erbyn 1770 roedd Williams wedi dechrau pregethu gyda'r Annibynwyr ac ymrestrodd yn fyfyriwr yn academi Y Fenni. Ordeinwyd yn weinidog yn Ross yn 1775 a galwyd ef i Groesoswallt yn 1777. Roedd yn cadw ysgol yno hefyd, ac yn 1782 symudwyd academi Y Fenni i'r dref a bu dan ei ofal tan 1791. Derbyniodd alwad i Carr's Lane, Birmingham, cyn diwedd 1791 ac ym 1792 daeth yn olygydd yr Evangelical Magazine. Ef hefyd oedd un o sylfaenwyr Cymdeithas Genhadol Llundain yn 1795. Daeth yn athro yn academi'r Annibynwyr yn Rotherham yn 1795.

Ffynonellau

Dolenni allanol