George Villiers, 6th Earl of Clarendon, Edith Edgcumbe, Countess Mount Edgcumbe
Chwaraeon
Roedd Edward Hyde Villiers, 5ed Iarll Clarendon, GCB, GCVO, PC, DL (11 Chwefror1846 – 2 Hydref1914), a oedd yn cael ei adnabod fel yr Arglwydd Hyde rhwng 1846 a 1870, yn wleidydd Unoliaethol RhyddfrydolPrydeinig o'r teulu Villiers. Gwasanaethodd fel Arglwydd Siambrlen yr Aelwyd rhwng 1900 a 1905.
Cefndir ac addysg
Clarendon oedd ail fab ond hynaf i oroesi i'r gwladweinydd Rhyddfrydol amlwg George Villiers, 4ydd Iarll Clarendon a'i wraig Yr Arglwyddes Katherine Grimston, merch James Grimston, Iarll 1af Verulam. Addysgwyd ef yng Ngholeg Harrow a Choleg y Drindod, Caergrawnt.[1]
Gyrfa wleidyddol
Etholwyd Clarendon i'r Senedd dros etholaeth Aberhonddu ym 1869, sedd a gadwodd tan y flwyddyn ganlynol, pan olynodd ei dad i'r iarllaeth a chymryd ei sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.[2] Ym 1895 penodwyd ef yn Arglwydd preswyl yng ngweinyddiaeth Unoliaethol yr Arglwydd Salisbury, swydd a gadwodd hyd 1900, pan gafodd ei ddyrchafu'n Arglwydd Siambrlen yr Aelwyd a'i dderbyn i'r Cyfrin Gyngor. Cadwodd y swydd pan ddaeth Arthur Balfour yn Brif Weinidog ym 1902. Syrthiodd y llywodraeth ym mis Rhagfyr 1905 ac nid chafodd Clarendon swydd wleidyddol arall.
Gwnaeth Clarendon un ymddangosiad hysbys yn chwarae criced dosbarth cyntaf [3] i Brifysgol Caergrawnt ym 1865.[4] Roedd yn fatiwr llaw dde ac yn fowliwr cyflym braich gron. Chwaraeodd pedwar o'i ewythrod James, Edward, Robert a Francis Grimston i gyd griced o'r radd flaenaf, fel y gwnaeth ei gefnder Walter Grimston. Rhwng 1890 a 1896, roedd yr Arglwydd Clarendon yn aelod o Bwyllgor Pêl-droed Clwb Chwaraeon West Hertfordshire, gan gadeirio rhai o'r cyfarfodydd. Yn ystod y cyfnod hwn enillodd y clwb dri Chwpan Hŷn Swydd Hertford mewn pedair blynedd, heb gystadlu yn y flwyddyn arall. Yn ddiweddarach, gelwid y tîm pêl-droed hwn yn Glwb Pêl-droed Watford.[5]
Teulu
Priododd yr Arglwydd Clarendon, yn gyntaf, yr Arglwyddes Caroline Agar, merch James Agar, 3ydd Iarll Normanton, ar 6 Medi 1876. Ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf ym 1894 priododd yn ail, Emma Hatch, ar 5 Awst 1908. Bu iddo dau o blant o'r briodas gyntaf:
George Herbert Hyde Villiers, 6ed Iarll Clarendon (1877 – 1955)
Yr Arglwyddes Edith Villiers (1878 – 1935), priod Piers Edgcumbe, 5ed Iarll Mount Edgcumbe
Bu farw'r Arglwydd Clarendon ym mis Hydref 1914, yn 68 oed, ac olynwyd ef yn yr iarllaeth gan George ei unig fab.
Anrhydeddau
Anrhydeddau Prydeinig
GCB : Marchog Croes Mawr yn Urdd y Baddon - 24 Hydref 1902 - a gyhoeddwyd yn rhestr Anrhydeddau'r Coroni 1902.[6] Cafodd ei urddo gan y Brenin Edward VII ym Mhalas Buckingham ar 24 Hydref 1902.[7]
GCVO: Marchog Croes Mawr yn Urdd Frenhinol Victoria ym 1905
Anrhydeddau tramor
Brenhiniaeth Prwsia: Marchog Dosbarth cyntaf yn Urdd yr Eryr Coch - 1899 - mewn cysylltiad ag ymweliad yr Ymerawdwr Wilhelm II i'r DU.[8]
↑James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8