Gwobr PEN Iwerddon, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, AWB Vincent Literary Award, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Commandeur des Arts et des Lettres
Fe'i ganed yn Tuamgraney, Swydd Clare, Iwerddon. Yn ôl O'Brien, roedd ei mam yn fenyw gref a rheolaethol a ymfudodd am ysbaid i America, a bu'n gweithio fel morwyn yn Brooklyn, Efrog Newydd, i deulu Gwyddelig-Americanaidd cefnog cyn dychwelyd i Iwerddon i gychwyn teulu a magu ei phlant. O'Brien oedd y plentyn ieuengaf o "deulu crefyddol-gul". O 1941 i 1946 cafodd ei haddysgu gan Sisters of Mercy - a chyfrannodd hyn at blentyndod lle teimlai ei bod wedi ei "mygu". "Gwrthodais grefydd cul a oedd yn lladd pob ysbryd rhydd" meddai.
Gyrfa
Mae gwaith O'Brien yn aml yn ymdrin â theimladau mewnol menywod, a'u problemau mewn perthynas â dynion, a chymdeithas yn gyffredinol.[4] Mae ei nofel gyntaf, The Country Girls, yn aml yn cael ei chydnabod â thorri'r tawelwch ar faterion rhywiol a materion cymdeithasol yn ystod cyfnod gormesol yn Iwerddon yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Cafodd y llyfr ei wahardd, ei losgi a'i wadu o'r pulpud, a gadawodd O'Brien Iwerddon gan droi'n alltud. Roedd yn byw yn Llundain ers y 1950au.
Derbyniodd Wobr PEN Iwerddon yn 2001. Enillodd Saints and Sinners Wobr Stori Fer Ryngwladol Frank O'Connor 2011, gwobr gyfoethocaf y byd am gasgliad o storiau byrion. Cyhoeddodd Faber and Faber ei bywgraffiad, Country Girl, yn 2012. Yn 2015, rhoddwyd y 'Saoi' (math o brifardd) iddi gan y Gymdeithas Wyddelig, Aosdána.
Bu'n aelod o Aosdána, Cymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd.
[5][6][7]
Anrhydeddau
Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr PEN Iwerddon, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol (2011), AWB Vincent Literary Award, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (2017), Commandeur des Arts et des Lettres (2021) .
↑Luke Dodd (29 Gorffennaf 2024). "Edna O'Brien obituary". The Guardian. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2024.
↑Yn y Saesneg gwreiddiol: Philip Roth: "the most gifted woman now writing in English"; Mary Robinson: "one of the great creative writers of her generation".
↑Liukkonen, Petri. "Edna O'Brien". Books and Writers. Finland: Kuusankoski Public Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 April 2004. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
↑Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 17 Tachwedd 2024. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 17 Tachwedd 2024.