Roedd Syr Ernest Alfred Thompson Wallis Budge (27 Gorffennaf 1857 – 23 Tachwedd 1934) yn Eifftolegydd, Dwyreinydd ac ieithydd o Sais a weithiodd i'r Amgueddfa Brydeinig ac a gyhoeddodd nifer fawr o lyfrau ac erthyglau ar yr Hen Aifft a'r Lefant cynnar. Fe'i ganed ym Modmin, Cernyw.