Broch ar ynys Leòdhas yn Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Dun Carloway (Gaeleg: Dùn Chàrlabhaigh). Saif ger arfordir gorllewinol yr ynys.
Mae'n un o'e esiamplau gorau o froch, gyda'r muriau yn parhau i gyrraedd uchder o 9 medr ar yr ochr ddwyreiniol. Mae'r broch tua 14 to 15 medr ar draws yn y gwaelod, a'r muriau'n 3 medr o drwch.
Credir fod y broch yn dyddio o'r ganrif gyntaf CC, ac iddo gael ei ddefnyddio ddiwethaf tua 1300.