Mae Càrlabhagh (Saesneg: Carloway) yn gymuned crofftio ar arfordir gorllewinol Leòdhas, Ynysoedd Allanol Heledd, yr Alban, gyda phoblogaeth o 500.[1]. Mae’r pentref ar y ffordd A858.
Denir twristiaid gan bentref tai duon Garenin a BrochDun Carloway.[2] Mae ysgol gynradd, hostel ieuenctid, gorsaf yr heddlu, gwestai, bwytai, melin Tweed, meddygfa, canolfan comunedol, amgueddfa, 2 eglwys, cofeb ryfel, cae pêl-droed a chymdeithas hanes. Cynhelir Sioe Amaethyddol a Gemau’r Ucheldir bob mis Awst.