Hi yw canolfan weinyddol Gorllewin Swydd Dunbarton. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 20,550. Ar un adeg roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant pwysig iawn yma; yn Dumbarton er enghraifft yr adeiladwyd y Cutty Sark, sydd yn awr yn Greenwich, Llundain. Yn ddiweddarach daeth cynhyrchu chwisgi yn bwysig. Erbyn hyn, mae llawer o'r boblogaeth yn gweithio yn Glasgow yr ochr draw i'r afon.
Nodwedd fwyaf trawiadol y dref yw Castell Dumbarton, ar Graig Dumbarton uwchben y dref. Yma yn y cyfnod wedi ymadawiad y Rhufeiniaid yr oedd caer Alt Clut (Allt Clud mewn Cymraeg Diweddar), prif lys teyrnas Frythonig Ystrad Clud yn yr Hen Ogledd.