Afon yn ne-orllewin yr Alban yw Afon Clud (Saesneg: River Clyde, Gaeleg yr Alban: Abhainn Chluaidh). Hi yw ail afon yr Alban o ran hyd, 176 km o hyd. Mae'n cyrraedd y môr ym Moryd Clud.
Llifa'r afon trwy ddinas Glasgow, ac ar un adeg roedd y diwydiant adeiladu llongau ar hyd y rhan yma o'r afon yn un o'r pwysicaf yn y byd.