Cymuned ym Mhowys, Cymru, yw Duhonw neu Aberduhonw (Saesneg: Duhonw). Saif i'r de o dref Llanfair-ym-Muallt, o gwmpas Afon Duhonw, sy'n rhoi ei henw i'r gymuned. Ffurfir ffin ddwyreiniol y gymuned gan Afon Gwy a'i ffin ogleddol gan Afon Irfon; mae'n ffinio ar Fynydd Epynt yn y de.
Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llanddewi'r Cwm a Maesmynys. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 300.
Credir fod gan y gymuned gysylltiad gydag Ystrad Fflur, yn enwedig y fferm "Aberduhonw". Adeiladwyd Abercynithon gan Edward Price a fu hefyd yn gyfrifol am adeiladu Llanfair-ym-Muallt wedi tân yn 1691.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Duhonw (pob oed) (294) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Duhonw) (42) |
|
14.6% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Duhonw) (147) |
|
50% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Duhonw) (30) |
|
26.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau