Dolores Ibárruri

Dolores Ibárruri
FfugenwLa Pasionaria Edit this on Wikidata
GanwydMaría de los Dolores Ibárruri y Gómez Edit this on Wikidata
9 Rhagfyr 1895 Edit this on Wikidata
Gallarta Edit this on Wikidata
Bu farw12 Tachwedd 1989 Edit this on Wikidata
Hospital Universitario Ramón y Cajal Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen, Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
AddysgDoctor of Sciences Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, newyddiadurwr, ymgyrchydd Edit this on Wikidata
SwyddSpanish Communist Party General Secretary, Aelod o Gyngres Dirprwyon Sbaen, Member of the Cortes republicanas Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCommunist Party of Spain Edit this on Wikidata
PriodJulián Ruiz Gabiña Edit this on Wikidata
PlantRubén Ruiz Ibárruri Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Lenin, Gwobr Heddwch Lennin, Order of the Victory of Socialism, Urdd y Chwyldro Hydref, Q109986273 Edit this on Wikidata
llofnod

Arwres Weriniaethol o Wlad y Basg, yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, oedd Isidora Dolores Ibárruri Gómez (9 Rhagfyr 189512 Tachwedd 1989) – a alwyd hefyd yn "La Pasionaria" (Sbaeneg am Flodyn y dioddefaint); roedd hefyd yn wleidydd comiwnyddol o dras Fasgaidd, a oedd yn enwog am ei slogan ¡No Pasarán! ("Gwnawn nhw ddim mynd heibioǃ") yn ystod Brwydr Madrid yn Nhachwedd 1936.

Hunangofiant a gyhoeddwyd mewn clawr caled yn gyntaf yn 1966.
Cofeb yng Nghymru i Dolores Ibarruri (gwall sillafu yn y Sbaeneg).
Bedd Dolores Ibarruri, Madrid.
carreg fedd
.

Ymunnodd â Phlaid Comiwnyddol Sbaen (Partido Comunista Español, neu'r PCE)  pan sefydlwyd y blaid yn 1921. Daeth yn ysgrifenwraig i'r Mundo Obrero,  sef cyhoeddiad gan y PCE, ac yn Chwefror 1936 fe'i hetholwyd i'r Cortes Generales fel dirprwy i'r PCE tros Asturias. Yn dilyn ei halltudiaeth o Sbaen ar ddiwedd y Rhyfel Carterf, fe'i pennwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol i Bwyllgor Canolog Plaid Comiwynyddol Sbaen, ac arhosodd yn y safle hon o 1942 hyd at 1960. Fe'i gelwid yn Arlywydd Anrhydeddus y PCE, safle y cadwodd hyd ddiwedd ei hoes. Pan ddychwelodd i Sbaen yn 1977, fe'i hail-etholwyd fel dirprwy i'r Cortes i gynrychioli'r un rhanbarth a chynrychiolai yn ystod yr Ail Weriniaeth.

Adeiladwyd cerflun i Dolores Ibarruri'n Glasgow, a chofeb syml iddi'n Tudweiliog yn Pen Llŷn. Coelir mai'r rhain yw'r unig gofebion i Dolores Ibarruri. Mae Dolores wedi ei chladdu'n mynwent La Almudena, Pueblo Nuevo, Madrid, Sbaen.