Gwobr Tony am Actor Nodwedd Gorau mewn Sioe-Gerdd, Gwobr Emmy 'Daytime', Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, 'Disney Legends', The Life Career Award, TCA Career Achievement Award, American Comedy Awards, Gwobr People's Choice, Primetime Emmy Award for Outstanding Lead Actor in a Comedy Series, Primetime Emmy Award for Outstanding Lead Actor in a Comedy Series, Grammy Award for Best Children's Music Album, Army Good Conduct Medal, Primetime Emmy Award for Outstanding Lead Actor in a Comedy Series, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Britannia Awards, Anrhydedd y Kennedy Center, Primetime Emmy Award for Outstanding Variety, Music or Comedy Series, Daytime Emmy Award for Outstanding Guest Performer in a Drama Series
Mae hefyd wedi ymddangos yn y ffilmiau Dick Tracy (1990), Curious George (2006), Night at the Museum (2006), a'i ddilyniant yn 2014, a Mary Poppins Returns (2018).
Bywgraffiad
Ganed Van Dyke yn West PlainsMissouri, a magwyd yn Danville, Illinois, mab Loren Wayne Van Dyke, gwerthwr teithio ar gyfer y Cwmni Bisgedi "Sunshine" gyda thalent am ddigrifio, a Hazel Vorice McCord. Addysgwyd yn ysgol elfennol Danville o 1931. Yn 1938 symudodd y teulu Van Dyke, sydd a'u gweiddiau yn yr Iseldiroedd (yr enw'n wreiddiol oedd Van Dijk), i Crawfordsville, Indiana, am ddwy flynedd cyn symyd yn ôl i Danville yn 1940 lle aeth Dick i'r ysgol uwchradd. Fel plentyn, roedd Dick wedi ei ysgogi i'r byd adloniant wedi iddo wylio ffilmiau Laurel a Hardy. Ar ôl ymddangos mewn sawl drama ysgol a theatr yn y gymuned, ymunodd Van Dyke â'r Awyrlu (United States Army Air Forces) yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yno, cymerodd ran mewn sioeau llwyfan a gweithiodd fel DJ ar y radio.