Tref yn awdurdod unedol Falkirk, yr Alban, yw Denny[1] (Gaeleg yr Alban: An Daingneach).[2] Yn hanesyddol, fe'i lleolwyd yn Swydd Stirling. Saif tua 7 milltir (11 km) i'r gorllewin o dref Falkirk, a 6 milltir (10 km) i'r gogledd-ddwyrain o Cumbernauld, gerllaw traffyrdd yr M80 a'r M876.
Hyd at y 1980au cynnar, roedd yn ganolfan ar gyfer diwydiant trwm, gan gynnwys nifer o ffowndrïau haearn, gwaith brics, pwll glo a melinau papur.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Denny boblogaeth o 8,300.[3]
Cyfeiriadau