David Lewis (AS Caerfyrddin)

David Lewis
Ganwyd1797 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
Bu farw16 Hydref 1872 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
GalwedigaethSiryfion Sir Gaerfyrddin yn y 19eg ganrif, bargyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Roedd David Lewis (179716 Hydref 1872) yn dirfeddiannwr, yn fargyfreithiwr ac yn wleidydd Ceidwadol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Bwrdeistref Caerfyrddin .

Manylion personol

Roedd Lewis yn unig fab ac etifedd Thomas Lewis, ystâd y Strade, Llanelli a Catherine merch William Lloyd ystâd Larges, Caerfyrddin. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen, cyn cael ei alw i'r bar yn Lincolns Inn ym 1823.

Priododd Letitia merch Benjamin Way, Denham Place, Swydd Buckingham. Bu iddynt nifer o blant gan gynnwys yr arlunydd Charles William Mansel Lewis, arlunydd, noddwr a hyrwyddwr celfyddyd yng Nghymru[1]. Bu farw yn y Strade ym 1872 yn 75 mlwydd oed.[2]

Gwaith

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Caerfyrddin ym 1833 ac fel Aelod Seneddol y fwrdeistref am un tymor rhwng 1832 a 1835.[3]

Chwaraeodd ran flaenllaw yn natblygiad rheilffyrdd De Cymru, Dyffryn Nedd, Llanelli a Llanidloes.

Cyfeiriadau

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
William Henry Yelverton
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin
18321835
Olynydd:
David Morris