Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi
Gwleidydd Llafur Cymreig oedd Daniel Granville West, Barwn Granville-West (17 Mawrth1904 – 23 Medi1984).[1] Ar ôl sefydlu practis cyfreithwyr llwyddiannus, dan arweiniad egwyddorion Bedyddwyr Cymru, daeth yn sosialydd blaenllaw yn yr oes ar ôl yr Ail Ryfel Byd.[2] Fe'i bedyddiwyd yn Eglwys Bedyddwyr Saesneg y Tabernacl, Sir Fynwy, ac arhosodd yn aelod ymroddedig ar hyd ei oes. Yn amlwg yn yr wrthblaid yn ystod cyfnod Hugh Gaitskell yn y 1950au a dechrau'r 1960au, arhosodd yn ymrwymedig i gyfraith a threfn yng Nghymru, a gwladoli'r diwydiant rheilffyrdd. Cafodd ei ddychryn gan etifeddiaeth dirywiad yr Ymerodraeth Brydeinig a beiodd am gynyddu diweithdra yn y cymoedd.
Cefndir
Ganwyd West yn Nhrecelyn, Sir Fynwy yn fab i John West ac Elizabeth (née Bridges) ei wraig . Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Trecelyn ac yna astudiodd y gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru lle enillodd wobr gyntaf yr adran.
Gyrfa
Wedi cymhwyso ym 1929, gweithiodd West fel cyfreithiwr ym mhractis Chivers a Morgan oedd a siambrau ym Mhont-y-pŵl a Threcelyn.
Parhaodd traddodiad anghydffurfiol cryf i fod â phresenoldeb sylweddol yn y pleidiau Rhyddfrydol a Llafur yn gynnar yn yr Ugeinfed ganrif. Roedd Granville-West yn eiriolwr dros addysg anghydffurfiol fel Uwch-arolygydd yr Ysgol Sul. Ei bractis ef oedd yn gweithredu fel cyfreithiwr i Gymdeithas Bedyddwyr Sir Fynwy. Pan ddechreuodd y rhyfel roedd eisoes yn bersonoliaeth leol amlwg yn gwasanaethu fel cynghorydd ar Gyngor Sir Fynwy 1939-47. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwasanaethodd yng Ngwarchodfa Gwirfoddolwyr y Llu Awyr Brenhinol, gan gael ei ddyrchafu'n Is-gapten Hedfan.[3]
Gyrfa Wleidyddol
Enillodd West brofiad gwleidyddol rhwng y rhyfeloedd ar Gyngor Dosbarth Trefol Aberdarn rhwng 1934 a 1938, cyn cael ei wneud yn Gynghorydd Sir. Ar ôl i'r rhyfel ddod i ben cafodd ei ddadfyddino, a dychwelodd i'r proffesiwn cyfreithiol. Ailymunodd ag ef gyda'i bartner Emrys Morgan i ffurfio'r cwmni Granville-West a Morgan. Wedi'i annog gan lywodraeth Attlee i geisio sedd yn y senedd, fe ymgeisiodd am enwebiad Pont-y-pŵl oherwydd bod ei gwmni wedi cymryd drosodd practis Harold Saunders ym 1943, gan roi presenoldeb iddo mewn ardal Llafur diogel.[4]
Etholwyd West yn Aelod Seneddol (AS) dros Bont-y-pŵl mewn isetholiad ym mis Gorffennaf 1946. Fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Preifat Seneddol i James Chuter Ede, yr Ysgrifennydd Cartref, ym 1950, ond y flwyddyn olynol collodd Llafur yr etholiad cyffredinol. Roedd hefyd yn llywydd cangen De Cymru a Sir Fynwy o Gymdeithas y Swyddogion Prawf ac yn gadeirydd y Cyngor Cynghori ar Hedfan Sifil yng Nghymru. Yn ystod Argyfwng Suez roedd o blaid cefnogi safbwynt Israel yn erbyn yr Aifft a gynigiwyd gan lywodraeth Eden.[5] Yn y Tŷ gofynnodd gwestiynau’n gyson am gyflogaeth, lefelau diweithdra, yr ystadegau di-waith [6] a sut y gallai’r cymoedd elwa o feysydd Datblygu.[7] Gofynnodd am iawndal i lowyr, eu tenantiaethau [8] a, Cymorth Cenedlaethol i bensiynwyr.[9]
Bywyd Personol
Ar 12 Ionawr 1937 priododd Vera, merch J.Hopkins o Bont-y-pŵl. Fe symudon nhw i fyw i Brynderwen, Abersychan, Pont-y-pŵl, a chawsant fab a merch.[10]
Tŷ'r Arglwyddi
Ym 1958 West oedd un o'r tri enwebai Llafur cyntaf a ddewiswyd gan yr arweinydd Hugh Gaitskell i gael ei greu yn farwn am oes fel Barwn Granville-West, o Bont- y -pŵl yn Sir Fynwy trwy lythyrau patent. Fe olynwyd ef fel AS Pont-y-pŵl gan Leo Abse. Cyflwynodd ei araith gyntaf yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 26 Tachwedd 1958 gan son am yr angen am wella'r ddarpariaeth i ddysgu'r Gymraeg mewn ysgolion. Roedd yn Gymro ymroddedig iawn, yn angerddol am ei wlad a hawliau ei gydwladwyr. Roedd yn eiriolwr dros ehangu diwydiannol yng nghymoedd De Cymru, roedd yn gwrthwynebu dirywiad, gan hyrwyddo achos cynnal a chadw rheilffyrdd i Gomisiwn Trafnidiaeth Prydain .[11] Roedd yn gobeithio denu diwydiannau newydd yn ystod ymgyrch 'gwres gwyn dechnoleg' llywodraeth Harold Wilson. Roedd yn gwrthwynebu toriadau Dr Richard Beeching i'r gwasanaeth rheilffordd. Yn ystod y 1970au daeth prinder tai gweddus ynghyd â dirywiad diwydiannol yn ystod y cyfnod daeth yr Arglwydd Granville-West yn foderneiddiwr, yn cefnogi rhyddfreinio les ddeiliaid i ganiatáu i fwy o bobl dosbarth gweithiol anelu at fod yn berchen ar eu cartref eu hunain.
Marwolaeth
Bu farw'r Barwn Granville-West ym Mhont-y-pŵl yn 80 oed, a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent Panteg, Pont-y-pŵl.[1]