Roedd y Parch Daniel Davies, D. D. (15 Tachwedd 1797 – 19 Chwefror 1876) yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr Cymreig, a elwir hefyd yn "Y Dyn Dall".
Bywyd cynnar ac addysg
Cafodd Davies ei eni ym Moelfre, Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin. Joshua Davies oedd ei dad. Roedd yn byw yn Nowlais, Merthyr Tudful tra'n fachgen[1] a aeth yn ddall ar ôl goroesi'r frech wen.[2] Yn 1815 derbyniwyd ef yn fyfyriwr yn Ysgol Brenhinol y Deillion, Lerpwl, lle nid yn unig y dysgodd sgiliau llaw, megis gwneud basgedi a gwehyddu, ond hefyd dysgodd siarad Saesneg.[3]
Gyrfa
Roedd Davies yn 19 pan ddechreuodd bregethu yng Nghymru, i ddechrau gyda'r Presbyteriaid, ond yn fuan wedyn gyda'r Bedyddwyr. Yn yr 1820au bu'n pregethu i'r Bedyddwyr Cymreig yn Llundain, ond cafodd alwad i Gapel Bedyddwyr Cymraeg Bethesda yn Abertawe yn 1826, gan wasanaethu yno tan 1855. Bu'n pregethu mewn amryw o eglwysi yng Nghymru yn hwyrach yn ei fywyd. Roedd yn gefnogol iawn o addysg y wladwriaeth ac addysg cyfrwng Saesneg i blant Cymraeg.[4] Roedd yn nodedig am ei ddeallusrwydd a frwdfrydedd am ddysgeidiaeth; bu i un ffrind ddweud am ei bregethu, "He was like one of those transatlantic steamers that must be seen in deep waters to be appreciated." Rhestrodd y Parch D. T. Phillips ef fel un o'r "princes of the pulpit" yn hanes Cymru.[5] Bu farw'r pregethwr Cymraeg Christmas Evans yng nghartref Daniel Davies yn 1838, ac fe bregethodd Davies yn ei angladd.[6]
Cafodd ei lun wedi ei dynnu gan y ffotgraffydd John Thomas fel hyn ddyn. Bu farw'r Parchedig Ddr. Davies yn 1876, yn 78 oed. Mae ei fedd yn Abertawe, mewn claddgell yng Nghapel y Bedyddwyr Cymraeg gynt ym Methesda. Roedd yn briod; roedd ei wraig wedi marw cyn 1856.[7] Roedd ganddo o leiaf un merch a'i goroesodd, sef Mrs. J. Rowlands o Lanelli.[8][8]
Cyfeiriadau