Dechreuodd ei yrfa gerddorl wedi iddo gyfarfod Alan Stivell. Rhwng 1967 a 1977 bu'n rhan o grŵp Stivell, yna yn 1977 cynhyrchodd ei albwm cyntaf ar ei ben ei hun. Yn 1992 gofynnodd trefnwyr y Festival de Cornouailles yn ninas Kemper, iddo fod yn gyfrifol am drefnu cerddoriaeth Geltaidd ar gyfer gŵyl y flwyddyn ganlynol. Casglodd 70 o gerddorion Celtaidd at ei gilydd dan yr enw L'Héritage des Celtes, a bu'n llwyddiannus dros ben.
Ei ymweliad cyntaf â Chymru oedd i Glwb Gwerin Rhuthun yn 1981.