Corff cyhoeddus sy'n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru gyda chyfrifoldeb dros ariannu a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru yw Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) (Saesneg: The Arts Council of Wales).
Hanes
Sefydlwyd Cyngor Celfyddydau Cymru (Saesneg: Welsh Arts Council) yn 1946 dan Siarter Frenhinol,[1] Yn 1994 unwyd y Cyngor â thair Cymdeithas Celfyddydol Rhanbarthol yng Nghymru a newidiwyd fersiwn Saesneg yr enw i Arts Council of Wales.
Daeth yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol ar 1 Gorffennaf 1999 pan drosglwyddwyd y cyfrifoldeb oddi ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i CCC i hyrwyddo'r celfyddydau. Mae CCC hefyd yn dosbarthu arian y Loteri Genedlaethol, i hybu y celfyddydau yng Nghymru, a ddosrennir gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan.
Fel elusen gofrestredig mae gan y Cyngor fwrdd ymddiriedolwyr sy'n cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn. Ar wahan i'r cadeirydd mae aelodau'r cyngor yn gwasanaethu yn ddi-dâl, ac fe'i penodir gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae gan CCC swyddfeydd ym Mae Colwyn, Caerfyrddin a dinas Caerdydd.
Prif Weithredwyr
Mae'r Cyngor yn un o aelodau corfforaethol y Sefydliad Materion Cymreig.
Beirniadaeth
Ar sawl achlysur mae rhai pobl wedi beirniadu CCC, sy'n un o'r "cwangos" gwreiddiol, am fod yn elitaidd - e.e. gwario miliwnau ar opera - ac am fod yn rhy ddosbarth canol, sefydliadol, a Seisnigaidd.[3]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol