Cynghrair Bêl-droed Legends

Mae Cynghrair Pêl-droed Legends (Saesneg; Legends Football League neu LFL) yn gynghrair pêl-droed Americanaidd i fenywod, gyda gemau'n cael eu chwarae yn y gwanwyn a'r haf yn stadia'r NBA, NFL, yr NHL a'r MLS. Sefydlwyd y gynghrair yn 2009 gan y Lingerie Football League a chafodd ei ail-frandio fel 'Cynghrair Bêl-droed Legends' yn 2013.[1][2] Yn Los Angeles mae pencadlys y gynghrair.

Background

Dyfarnwyr a chwaraewyr yn Gêm Ffantasi, Sydney, 2012

Daeth y cysyniad o Super Bowl amgen a chwaraewyd  hanner amser ar deledu pay-per-view, o'r enw Lingerie Bowl.[3] Cynhaliwyd y tair gêm gyntaf rhwng 2004 a 2006 gan eu galw'n Lingerie Bowls I, II, and III. O 2007 i 2009, canslwyd y gemau am resymau amrywiol. Yn 2009, ehangodd cadeirydd yr LFL, Mitch Mortaza, y cysyniad o un gêm flynyddol  i gynghrair o 10 tim.

Rheolau

Gêm Ffantasi yn Sydney, 2012

Mae arddull y chwarae yn un cyswllt llawn ac yn debyg i gynghreiriau pêl-droed eraill yn UDA.Mae'r gwisgoedd yn cynnwys padiau ysgwydd, padiau penelin, padiau pen-glin, helmedau hoci iâ plastig gyda fisorau clir yn lle masgiau wyneb. Cyn 2013 roedd y chwaraewyr yn  gwisgo gardas a dillad isaf.

Mae saith o fenywod ar bob ochr i'r maes 50 llathen, un yn llai nag yr wyth chwaraewyr sydd fel arfer. Mae'r timau'n cynnwys 20 o chwaraewyr, ond dim ond 14 o'r rhain yn weithredol ar  ddiwrnod gêm. Mae hyn yn golygu fod tri neu bedwar o chwaraewyr sy'n chwarae y ddwy ffordd, fel y " menywod haearn". Caniateir i'r hyfforddwyr amnewid eu chwaraewyr fel y mynnont.

Ehangu

Sefydlwyd yr LFL yn yr Unol Daleithiau, ond yn 2012, lansiwyd cydymaith yng Nghanada ac yna yn  Awstralia ym mis rhagfyr 2013. Cychwynwyd cynghrair hefyd yn Ewopa, sef LFL Europa, yn 2016 gyda thimoedd yn Nulyn, ManceinionDüsseldorf a Hamburg.

Cyfeiriadau

  1. Mooney, Michael J. (11 Mawrth 2010). "Lingerie Football League Founder Mitch Mortaza Got His Showbiz Start on TV's Blind Date". Broward-Palm Beach New Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Chwefror 2011. Cyrchwyd September 9, 2010. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  2. Mitchell, Houston (11 Ionawr 2013). "Lingerie Football League changes name; players to wear uniforms". Los Angeles Times. Cyrchwyd 11 Ionawr 2013.
  3. Geist, Bill (7 Chwefror 2010). "Lacing Up for the Lingerie Bowl; Bill Geist Learns LFL Players Really Love Football, and Don't Mind Playing in Their Underwear". CBS Sunday Morning. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-26. Cyrchwyd 23 Chwefror 2010.