Cymdeithas Bêl-droed Gogledd MacedoniaUEFA |
---|
|
Sefydlwyd | 1926/1948 |
---|
Aelod cywllt o FIFA | 1994 |
---|
Aelod cywllt o UEFA | 1994 |
---|
Llywydd | Muamed Sejdini |
---|
Gwefan | ffm.mk |
---|
Ffederasiwn Pêl-droed Macedonia' [1] (Macedoneg: Фуботлска Федерација на Macedonia; Albaneg: Federata e Futbollit të Maqedonisë) yw enw swyddogol corff llywodraethu pêl-droed yng ngwladwriaeth Ngogledd Macedonia (a alwyd yn "Cyn Weriniaeth Macedonia Iwgoslafia" hyd nes Ionawr 2019 [2]). Mae wedi'rpencadlys leoli yn y brifddinas, Skopje ac mae'n aelod o UEFA a FIFA. Dyma'r corff sy'n trefnu pencampwriaethau cenedlaethol gan gynnwys Uwch Gynghrair Gogledd Macedonia, Cwpan Macedonia ac yn cydlynu gweithgareddau tîm dynion cenedlaethol, menywod ac ieuenctid Gogledd Macedonia.[3][4][5]
Hanes
Chwaraewyd y gêm swyddogol gyntaf ar 20 Ebrill, 1919 rhwng tîm Byddin Lloegr a thîm pêl-droed ieuenctid Skopje. Yn 1978, er anrhydedd a chof yr ornest honno, ac ar achlysur 70 mlynedd o bêl-droed ym Macedonia, gosodwyd cofeb ar y man lle cynhaliwyd yr ornest. FC Vardar o Skopje yw'r clwb pêl-droed cofrestredig cyntaf, sy'n dyddio o 1912.
Ffurfiwyd y Ffederasiwn ar 18 Rhagfyr 1926, gyda'r cyfarfod cyffredinol sefydlu yn cael ei gynnal ym mwyty y "Arwr Marw Anhysbus" bwyty yn ninas Skopje. Ailadeiladwyd y ffederasiwn ar ôl yr Ail Ryfel Byd ar 14 Awst 1949 yn Skopje (ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, sefydlwyd yr adran bêl-droed gyntaf fel rhan o Gymdeithas Chwaraeon Dinas Skopje, y rhannodd ohoni ar 16 Awst 1948). Rhwng 1949 a 2002, fe'i galwyd yn From 1949 to 2002, "Gymdeithas Bêl-droed Macedonia" (Фудбалски Сојуз на Македонија / Fudbalski Sojuz na Makedonija neu ФСМ/FSM). Llywydd cyntaf y ffederasiwn newydd ei ffurfio oedd Lyubisav Ivanov-Jingo.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd chwaraeodd y detholiad o glybiau pêl-droed Macedoneg yn erbyn timau Byddin yr Almaen a Bwlgaria. Roedd llawer o'r chwaraewyr Macedoneg hefyd yn chwarae i dîm cenedlaethol Bwlgaria. Ar 16 Awst 1948 a sefydlir Cymdeithas Bêl-droed Macedonia ar 14 Awst, 1949 fel rhan annatod i Gymdeithas Bêl-droed Iwgoslafia. Ar 7 Chwefror, 1993 mae Cymdeithas Bêl-droed Macedonia yn trefnu'r Cynulliad annibynnol cyntaf.
Ym 1994 daeth Cymdeithas Bêl-droed Macedonia yn aelod cysylltiedig o FIFA ac UEFA. Yn 2003 ailenwyd Cymdeithas Bêl-droed Macedonia yn Ffederasiwn Pêl-droed Macedonia - FFM.[6]
Logo
Mae logo'r ffederasiwn wedi esblygu dros amser. Ar 22 Mawrth 2014 cyflwynwyd logo newydd.[7]
-
Hen logo hyd nes 2014
-
Arwyddlun ers 2014
Dolenni
Cyfeiriadau