Digwyddodd cyflafan Tal Abyad ar 5 Awst 2013 ym mhentref Tal Abyad yn y Cyrdistan Syriadd. Yn ôl llygad-dystion, ymosododd Jabhat al-Nusra, grwp terfysgol Islamiaethol Sunni sy'n rhyfela yn erbyn llywodraeth Syria, ar y pentref Cyrdaidd hwnnw ger y ffin rhwng Syria a Twrci gan ladd 450 o Cyrdiaid yn cynnwys 120 o blant a 330 o ferched a dynion oedrannus.[1]
Condemnwyd y gyflafan gan Sergei Lavrov, Gweinidog Tramor Rwsia. Comdemniodd hefyd amharodrwydd yr Unol Daleithiau i gondemnio'r weithred: "Mae'r safbwynt yma yn hollol annerbynol. Ni ellir gymhwyso safonau dwbl i derfysgaeth."[2]
Roedd y gyflafan yn rhan o'r ymladd rhwng Cyrdiaid Syria a Jabhal al-Nusra a'i gynhreiriadd sydd wedi cyhoeddi jihad yn erbyn y Cyrdiaid.
Ychydig iawn o sylw gafodd y digwyddiad yng nhyfryngau prif-ffrwd y Gorllewin ond cafwyd adroddiad a fideo yn y Las Vegas Guardian Express.[3]
Cyfeiriadau