BBC Alba Premier Sports S4C (cynnwys clybiau Cymru)
2019–20
Cwpan Her yr Alban,[1][2][3] a adwaenir yn gyffredin fel Scottish League Challenge Cup[4][5] neu gan amlaf fel y Scottish Challenge Cup,[1][2] ac a adwaenir ar hyn o bryd fel Tunnock's Caramel Wafer Challenge Cup am resymau noddi, yw cystadleuaeth cwpan pêl-droed cynghreiriau pêl-droed yr Alban (SPFL) islaw Uwch Gynghrair yr Alban. Mae bellach yn cynnwys timau o'r Iwerddon, Cymru a Lloegr.
Gofalwch rhag drysu gyda Cwpan yr Alban a'r Scottish League Cup.
Hanes
Fe'i sefydlwyd gan ragflaenydd yn wreiddiol fel cystadleuaeth i'r 28 neu islaw'r lefel yr Premiership ond ychwanegwyd timau o dan lefel SPFL yn 2011-12, a thimau gwadd o'r tu allan i'r Alban yn 2016-17. Ar gyfer tymor 2018–19 roedd 58 o dimau: 30 o'r 3 gynghrair islaw'r Premieship; deuddeg tîm dan-20 o glybiau yr Uwch Gynghrair; pedwar yr un o'r Highland League a'r Lowland League; a dau dîm gwadd o bob un o Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon (NIFL Premiership), Uwch Gynghrair Cymru, National League yn Lloegr, ac Uwch Gynghrair Gwerinaeth Iwerddon.[6]
Cynhaliwyd y gystadleuaeth gyntaf yn ystod tymor 1990–91 fel Cwpan Canmlwyddiant B&Q [1] i ddathlu canmlwyddiant sefydlu'r SFL. Bwriedir iddi fod yn gystadleuaeth unwaith ac am byth ond parhaodd i fod yn gystadleuaeth oherwydd ei phoblogrwydd. Enillydd cyntaf y twrnamaint oedd Dundee F.C., a drechodd Ayr UnitedFalkirk F.C. yw'r tîm mwyaf llwyddiannus yn y twrnamaint, gyda phedwar buddugoliaeth, yn fwyaf diweddar yn 2012. Yr enillydd diweddaraf oedd Ross County, a drechodd Nomadiaid Cei Connah yn rownd derfynol 2019.
Fformat
Mae Cwpan yr Her yn twrnamaint 'knock out'. Mae enillydd pob gêm yn symud ymlaen i'r rownd nesaf ac mae'r collwr yn cael ei ddileu o'r twrnamaint. Mae pob gêm, gan gynnwys y rownd derfynol, yn gêm un cymal. Os na phenderfynwyd ar enillydd clir ar ôl 90 munud o'r amser arferol, caiff 30 munud o amser ychwanegol ei chwarae. Os yw'r sgôr yn dal yn wastad ar ôl amser ychwanegol, yna bydd yr enillydd yn cael ei benderfynu gan giciau cosb. Caiff y rownd derfynol ei chwarae mewn lleoliad niwtral.[7]
Perfformiad Fesul Clwb
Dydy'r clybiau mewn italics ddim yn bodoli mwyach.
Mae Cwpan Her yr Alban wedi cael ei noddi sawl gwaith ers iddo gael ei gyflwyno ym 1990. Mae'r noddwr wedi gallu pennu enw'r gystadleuaeth. Bu pedwar noddwr ers ffurfio'r gystadleuaeth yn ogystal â sawl newid enw o fewn cyfnod pob nawdd.[1] Mae'r gystadleuaeth yn dibynnu ar refeniw a enillwyd o nawdd er ei fod wedi gallu rhedeg heb noddwr dros ddau gyfnod ond bu'n rhaid ei atal am un tymor ym 1998–99 o ganlyniad.
1990-1995: B&Q (Cwpan Canmlwyddiant B&Q (tan 1991) yna Cwpan B&Q)
1995–1998: Dim noddwr
1999–2006: Gwisgi Bell (Cwpan Her Bell (tan 2002) yna Cwpan Bell)
2006-2008: Dim noddwr
2008–2011: MG Alba (Cwpan Her ALBA)
Ramsdens 2011–2014 (Cwpan Ramsdens)
2014–2016: Petrofac (Cwpan Hyfforddi Petrofac)
2016–2019: Irn-Bru (Cwpan Irn-Bru)
2019-present: Tunnock's (Cwpan Her Carmel Wafer Tunnock)
Darlledwyd gemau dethol yn fyw ar sianel deledu Gaeleg yr Alban, BBC Alba ers 2008,[8] sy'n cael ei rhedeg ar y cyd gan y cyn noddwr MG Alba a'r BBC. Mae pob rownd derfynol ers rownd derfynol 2008 wedi cael ei darlledu'n fyw ar y sianel [47] ac estynnwyd y trefniant am dair blynedd arall yn 2012 er gwaethaf nawdd MG Alba i'r gystadleuaeth yn 2011. [48] Gydag ehangu'r gystadleuaeth i gynnwys timau o Ogledd Iwerddon a Chymru o 2016 i 2017, cytunwyd ar gytundebau ychwanegol ar gyfer darllediadau gemau byw gyda Premier Sports ac S4C.[6]