Mae'n debygol mai at y brenin Gwrtheyrn y mae'r enw yn cyfeirio. Brenin Brythonaidd o ganol y 5g oedd Gwrtheyrn (Lladin: Vortigernus), yn ôl traddodiad. Dywedir mai ef fu'n gyfrifol am wahodd y Sacsoniaid i Ynys Prydain. Nid oes sicrwydd a yw'n gymeriad hanesyddol ai peidio.
Yn ôl un fersiwn o chwedl Gwrtheyrn, ar ôl ffoi am loches i Gymru priododd ei ferch ei hun, a chafodd ei felltithio am hynny gan Sant Garmon. Llosgwyd ef a'i wragedd gan dân o'r nefoedd yng Nghaer Gwrtheyrn.
Disgrifiad
Saif y fryngaer hon ar safle cryf i'e de o Afon Teifi. Mae amddiffynwaith cryf o waith cerrig yn dilyn ffurf naturiol y bryn. Ceir dwy ffos wrth y brif fynedfa ar ochr dde-orlelwin y gaer sy'n ffurfio math o barbican a cheir nifer o gerrig miniog chevaux-de-frise ar y tir tu allan hefyd i gryfhau'r amddiffyn. Mae'r chevaux-de-frise hyn yn angyffredin yng Nghymru.[1]
Cefndir
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CM023.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[3] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]
Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.