Gwobr Llyfrau Costa, Gwobr Lenyddol Lambda, Gwobr PEN Iwerddon, Gwobr E. M. Forster, International Dublin Literary Award, Encore Award, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Joan B. Cendrós International Award, Folio Prize, Runciman Award, Gwobr Hawthornden, Medal Bodley, AWB Vincent Literary Award, Q130553019, Q130553019
Mae Colm Tóibín (ganwyd 30 Mai1955) yn nofelydd, ysgrifennwr storïau byr, ysgrifwr, dramodydd, newyddiadurwr, adolygydd a bardd Gwyddelig.
Ar hyn o bryd maeTóibín yn Irene a Sidney B. Silverman, Athro yn y Dyniaethau ym Mhrifysgol Columbia , ac yn olynnydd i Martin Amis fel athro ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Manceinion. Penodwyd ef yn Ganghellor Prifysgol Lerpwl yn 2017.[1] Fe'i ganmolid fel hyrwyddwr o leiafrifoedd wrth iddo gasglu Wobr PEN 2001 Iwerddon,[2] hefyd yn yr un flwyddyn, fe'i enwid yn un o'r '300 Prif Ddeallusyn Prydain' ym mhapur The Observer er ei fod yn Wyddel.[3]
Bywyd Cynnar
Ganwyd Tóibín yn Enniscorthy, Sir Wexford, yn y de-ddwyrain Iwerddon yn 1955 iw rieni Bríd a Michael Tóibín.[4] Yntau oedd yr ail ieuengaf o bump o blant. Roedd ei daid, Patrick Tobin, yn aelod o'r IRA, a hefyd ei hen-ewythr Michael Tobin. Cymerodd Patrick Tobin ran yn y Gwrthryfel 1916 yn Enniscorthy a cafodd ei gaethiwo yn Frongoch yng Nghymru. Athro oedd tad Tóibín a oedd yn ymwneud â'r blaid wleidyddol Fianna Fáil yn Enniscorthy; bu farw pan oedd Colm yn 12 mlwydd oed.
Magwyd Tóibín mewn cartref lle roedd, meddai, "cryn dipyn o dawelwch."[5] Nid oedd yn medru darllen tan iddo fod yn naw mlwydd oed, ac roedd ganddo atal dweud garw.[6] Derbyniodd ei addysg uwchradd yng Ngholeg San Pedr, Sir Wexford, lle yr oedd yn preswylio rhwng 1970 a 1972. Yn ddiweddarach siaradodd am ddod o hyd i rai o'r offeiriaid yno'n ddeniadol.[7]
Ym mis Gorffennaf 1972, yn 17 oed, cafodd waith haf yn gweithio tu ôl i'r bar yn y Grand Hotel yn Tramore, Sir Waterford, yn gweithio o chwech yn y nos hyd at ddau yn y bore. Treuliodd ei ddyddiau ar y traeth, yn darllen The Essential Hemingway, a honai fod copi o'r llyfr hwn dal yn ei feddiant a'i "dudalennau wedi eu lliwio gan ddŵr môr." Datblygodd y llyfr hwn ei ddiddordeb gyda Sbaen, gan arwain at ddymuno ymweld â'r wlad, a rhoddodd iddo "syniad o ryddiaith fel rhywbeth hudolus, smart a siapus, a syniad o gymeriad mewn ffuglen fel rhywbeth rhyfeddol ddirgelus, yn deilwng o gydymdeimlad ac edmygedd, ond hefyd yn anniffiniol. Ac yn fwy na dim, pleser pur y brawddegau a'u rhythmau, a'r swm o emosiwn a oedd yn byw yn yr hyn nad oedd yn cael ei ddweud, beth oedd rhwng y geiriau a'r brawddegau."[8]
Symudodd ymlaen i Goleg Prifysgol Dulyn, gan raddio ym 1975. Yn syth ar ôl graddio, gadawodd am Barcelona. Ysbrydolwyd nofel gyntaf Tóibín The South, (1990au) yn rhannol gan ei amser ym Marcelona, fel yr oedd, yn fwy uniongyrchol, ei waith ddi-ffuglen Homage to Barcelona (1990). Ar ôl dychwelyd i Iwerddon yn 1978, dechreuodd i astudio ar gyfer gradd meistr. Fodd bynnag, ni gyflwynodd ei thesis a gadawodd y byd academaidd, o leiaf yn rhannol, ar gyfer gyrfa mewn newyddiaduraeth.
Roedd y 1980au cynnar yn gyfnod enwedig o lachar i newyddiaduraeth Gwyddelig ac yn anterth i gylchgrawn newyddion misol Magill. Daeth Tóibín yn olygydd y cylchgrawn yn 1982, a bu yn y swydd tan 1985. Gadawodd o ganlyniad i anghydfod gyda Vincent Browne, cyfarwyddwr Magill's.
Gwaith
Dilynnwyd The South gan The Heather Blazing (1992), Story of the Night (1996) a The Blackwater Lightship (1999). Mae ei bumed nofel, The Master (2004), yn gofnod ffuglennol o rannau ym mywyd awdur Henry James. Ef yw awdur llyfrau ffeithiol eraill: : Bad Blood:A Walk Along the Irish Border (1994), (ailargraffwyd o'r argraffiad gwreiddiol o 1987) ac The Sign of the Cross: Travels in Catholic Europe (1994).
Mae Tóibín wedi ysgrifennu dwy gyfrol stori fer. Mae ei gasgliad cyntaf, Mothers and Sons, sydd, fel mae'r enw yn awgrymu yn edrych ar y berthynas rhwng mamau a'u meibion, a gyhoeddwyd yn 2006, a gafodd adolygiad ffafriol (gan gynnwys gan Pico Iyer yn Y New York Times).Cyhoeddwyd ei ail,a oedd yn gasgliad ehangach, The Empty Family, yn 2010,[9] a gafodd ei roi ar y rhestr fer ar gyfer y (2011) Frank O'Connor International Short Story Award.[10]
Ysgrifennodd Tóibín ddrama, sy'n dwyn y teitl Beauty in a Broken Place, a gafodd ei chynnal yn Nulyn ym mis Awst 2004. Mae wedi parhau i weithio fel newyddiadurwr, yn Iwerddon a thramor, gan ysgrifennu ar gyfer y London Review of Books ymhlith cyhoeddiadau eraill. Mae hefyd wedi ennill enw da fel beirniad llenyddol: mae wedi golygu llyfr ar Paul Durcan, The Kilfenora Teaboy (1997), ac yn The Penguin Book of Irish Fiction (1999); ac mae wedi ysgrifennu The Modern Library: The 200 Best Novels in English since 1950 (1999), gyda Carmen Callil. Mae hefyd wedi ysgrifennu casgliad o ysgrifau, Love in a Dark Time: Gay Lives from Wilde to Almodóvar (2002), ac astudiaeth ar Lady Gregory, Lady Gregory's Toothbrush (2002).
Anfonnodd Tóibín ffotograff o Borges i Don DeLillo, sy'n ei ddisgrifio fel " wyneb Borges yn erbyn cefndir tywyll—Borges ffyrnig, dall, ei ffroenau'n agored, ei groen wedi ei ymestyn yn dynn, ei geg yn rhyfeddol o fywiog; ei geg yn edrych fel ei fod wedi ei beintio; ei fod fel siaman wedi ei beintio ar gyfer gweledigaethau, â'r mae i'r wyneb cyfan rhyw fath o berlewyg duraidd". Mae DeLillo yn aml yn ceisio cael ysbrydoliaeth oddi wrtho.[11]
Yn 2011, cyhoeddoedd The Times Literary Supplement ei gerdd "Cush Gap, 2007".[12] Daeth 2012 a chyhoeddiad The Testament of Mary. Yn 2014, bu iddo ryddhau ei nofel llawn-hyd cyntaf ers ei nofel Brooklyn (2009), portread o weddw ddiweddar, a mam i bedwar yn Wexford â'i thrafferth drwy'r cyfnod o alar, o'r enw Nora Webster.
Yn 2015, cyn y refferendwm ar Briodas Cydraddoldeb, bu i Tóibín gyflwyno sgwrs yn dwyn y teitl "Cofleidiad Cariad: Bod yn Hoyw yn Iwerddon Nawr" yn Trinity Hall, gan gynnwys dyddiaduron Roger Casement, o waith Oscar Wilde, John Broderick a Kate O'brien, a brwydrau Uchel Lys yr 1980au y Seneddwr David Norris.[13] Yn yr un flwyddyn, rhyddhäodd On Elizabeth Bishop, astudiaeth feirniadol a gyrrhaeddodd restr Llyfrau Gorau Y Guardian 2015 ddwywaith.[14]
Arddull
Mae Tóibín wedi dweud y daw ei ysgrifennu allan o dawelwch. Nid oes well ganddo stori ac nid yw'n gweld ei hun fel storïwr. Mae wedi dweud, "Bod gorffen nofel bron fel rhoi plentyn i gysgu – ni ellir ei wneud yn sydyn."[15]
Mae Tóibín yn gweithio o dan yr amodau mwyaf eithafol, difrifol, a llym. Mae'n eistedd ar gadair galed, anghyfforddus sy'n achosi poen iddo. Pan yn gweithio ar ddrafft cyntaf mae'n gorchuddio ochr dde'r dudalen; ac yna nes ymlaen gwnai peth ail-ysgrifennu ar yr ochr chwith. Mae'n cadw prosesydd geiriau mewn ystafell arall ar gyfer trosglwyddo gwaith ysgrifenedig yn nes ymlaen.[16]
Themâu
Mae gwaith Tóibín yn archwilio nifer o prif themâu: y darlun o gymdeithas Wyddelig, byw tramor, y broses o greadigrwydd, a diogelu hunaniaeth bersonol, yn canolbwyntio yn enwedig ar hunaniaeth gyfunrywiol, ond hefyd ar y hunaniaeth wrth wynebu profedigaeth. Mae nofelau "Swydd Wexford", The Heather Blazing a The Blackwater Lightship, i'll dau'n defnyddio Enniscorthy, tref genedigol Tóibín geni, fel deunydd naratif, ynghyd â hanes Iwerddon a marwolaeth ei dad. Gelid dod o hyd i adroddiad hunangofiannol a myfyrio ar y bennod hon, yn y llyfr ffeithiol, The Sign of the Cross. Yn 2009, cyhoeddodd Brooklyn, stori o wraig yn ymfudo i Brooklyn o Enniscorthy.
Mae dwy nofel arall, The Story of the Night ac The Master, yn troi o gwmpas cymeriadau sydd yn gorfod gwynebu hunaniaeth cyfunrywiol a sy'n cymryd lle y tu allan i Iwerddon, rhan fwyaf, gydag un cymeriad yn gorfod ymdopi â byw dramor. Mae ei nofel gyntaf, The South, yn ymddangos i gynnwys themâu o'r ddwy linell o waith. Gellir ei darllen ar y cyd â The Heather Blazing fel diptych o etifeddiaeth Protestannaidd a ChatholigSir Wexford, neu gellir ei cyfuno gyda'r nofelau "byw dramor". Y trydydd pwnc sy'n dolennu The South a The Heather Blazing yw'r greadigaeth, o baentio yn yr achos cyntaf ac yng ngeiriad gofalus dyfarniad y barnwr yn yr ail. Y trydydd llinell thematig arweiniodd at The Master, sef astudiaeth ar hunaniaeth, ragflaenwyd gan lyfr di-ffuglen ar yr un pwnc, Love in a Dark Timea. Mae'r llyfr o storïau byrion "Mothers and Sons" yn delio gyda themâu teuluol, y naill yn Iwerddon a Chatalonia, a chyfunrywioldeb.
Mae Tóibín wedi ysgrifennu am rhyw hoyw mewn nifer o nofelau, er i Brooklyn gynnwys golygfa o ryw heterorywiol lle mae'r arwres yn colli ei morwyndod.[17] Yn ei gasgliad o draethawdau yn 2012 New Ways to Kill Your Mother: Writers and Families mae'n astudio bywgraffiadau James Baldwin, J. M. Synge a W. B. Yeats, ymhlith eraill.[18]
Mae ei nodiadau personol a llyfrau gwaith yn preswylio yn Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon.[19]
Mae Tóibín yn aelod o Aosdána ac mae wedi bod yn athro gwadd ym Mhrifysgol Stanford, Prifysgol Texas yn Austin ac Mhrifysgol Princeton. Mae hefyd wedi darlithio mewn nifer o brifysgolion eraill, gan gynnwys Coleg Middlebury, Coleg Boston, Prifysgol Efrog Newydd, Prifysgol Loyola Maryland, ac yn Coleg y Groes Sanctaidd. Yn 2017, bu'n darlithio yn Athens, yn Georgia ym Mhrifysgol Georgia Cadeirydd ar gyfer Deall Byd-eang.[20] Roedd yn athro ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Manceinion, gan lwyddo Martin Amis yn y swydd honno, ac ar hyn o bryd mae'n dysgu ym Mhrifysgol Columbia.
Bywyd personol
Mae Tóibín yn agored hoyw.[21] Nid yw'n gywlio'r teledu, gan cyfaddef ei fod wedi profi dryswch rhwng y gwleidyddion Ed Miliband ac Ed Balls. Y mae wedi arddelu ar yr hyfrydwch seimllyd o 'fry-up' yn y bore.[22]
Bu dathliadau penblwydd Tóibín yn 50 oed yn Nulyn gynnwys ffracas rhwng y dramodydd Tom Murphy â'r impresario theatr Michael Colgan. Bu i Murphy daro pen Colgan hefo platiad o gyri.[23]
Gwobrau ac anrhydeddau
1993: Encore Award am ail nofel The Heather Blazing[24]
1999: Booker Prize rhestr fer am The Blackwater Lightship
2001: International IMPAC Dublin Literary Award rhestr fer am The Blackwater Lightship
2006: International IMPAC Dublin Literary Award amThe Master
2004 Los Angeles Times Nofel y Flwyddyn The Master
2004 Stonewall Book Award am The Master
2004 Lambda Literary Award am The Master
2004 The New York Times un o lyfrau mwyaf nodedig y flwyddyn am The Master
2007: Etholwyd Cymrawd i'r Royal Society of Literature.[25]
2008: Gradd Anrhydeddus Doctor Llythrennau (DLitt), Prifysgol Ulster/University of Ulster mewn cydnabyddiaeth i'w gyfranniad tuag at Lenyddiaeth gyfoes Gwyddelig.
Educational Media Solutions, 'Reading Ireland, Contemporary Irish Writers in the Context of Place', 2012, Films Media Group
Costello-Sullivan, Kathleen. Mother/Country: Politics of the Personal in the Fiction of Colm Tóibín. Reimagining Ireland series. Ed. Eamon Maher. Bern: Peter Lang, 2012.
↑"Austen was a woeful speller . . ". Irish Independent. 30 Hydref 2010. Irish Independent. 30 Hydref 2010. 'Although not abused by priests in the Wexford school he attended, he positively fancied some of them. "Aged 15 or 16," he tells interviewer Susanna Rustin, "I found some of the priests sexually attractive, they had a way about them . . . a sexual allure which is a difficult thing to talk about because it's usually meant to be the opposite way round"'.
↑Cullen, Conor (12 Gorffennaf 2011). "Tóibín in line for major prize". Enniscorthy Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Hydref 2011. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
↑"Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Ionawr 2015. Cyrchwyd 2014-12-03. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)