Clwb Golff Castell Gwenfô

Clwb Golff Castell Gwenfô
Enghraifft o:clwb golff Edit this on Wikidata
Map

Mae Clwb Golff Castell Gwenfô, neu Clwb Golff Gwenfô ar lafar (Saesneg: Wenvoe Castle Golf Club) yn gwrs golff 18-twll rhwng y Barri a Gwenfô ym Mro Morgannwg oddi ar ffordd yr A4050.[1] Sefydlwyd y clwb ym 1936 o amgylch Castell Gwenfô, plasty a oedd yn gartref i Hugh Jenner, llywydd cyntaf y clwb.[2] Hyd y cwrs yw 6,544 llath.

Mae Castell Gwenfô yn gwrs parcdir a ddyluniwyd gan James Braid. Mae'r cwrs yn amrywiol o ran daearyddiaeth gyda sawl bryncyn bychan a lawntydd tonnog. Mae nifer o bencampwriaethau wedi eu cynnal yno, gan gynnwys pencampwriaeth foursomes Cymru yn 2007.[3] Mae'r clwb yn aml yn cynnal digwyddiadau mewnol ac allanol.[4]

Hanes

Buarth Castell Gwenfô (2016)
Rhan o gwrs golff y clwb (2016)

Mae’r clwb presennol ar safle hen gastell a godwyd ar ddechrau’r 1700au. Mae yna ddyfalu ei fod ar safle hen Gastell Gwenfô, y gwyddys ei fod yn bodoli yng nghanol y 1500au, a dywedir iddo gael ei losgi’n ulw gan Owain Glyn Dŵr. Codwyd castell arall ar y safle'n ddiweddarach. Roedd yr adeiladau a’r tir sy’n ffurfio’r cwrs golff yn eiddo i’r teulu Thomas a gronnodd gyfoeth a dylanwad sylweddol wrth iddynt ymgeisio at fod yn aelodau seneddol ac yn drirlunwyr ar raddfa fawr. Mae’n bosibl yr adeg honno fod rhyw lun ar gwrs golff yn dechrau dod i’r amlwg gyda chofnodion yn dangos ardal y naw twll blaen yn cael ei adnabod fel ‘The Gathers’ ac ardal arall yn cael ei galw’n ‘The Lawns’.

Yn 1774 gorfodwyd y teulu i werthu tir ac eiddo a throsglwyddwyd Castell Gwenfô i ddwylo Peter Birt a wnaeth ei ffortiwn personol o lo a chamlesi yn Swydd Efrog. Fodd bynnag, ym 1910 bu tân difrifol a ddinistriodd bron y cyfan o Gastell Gwenfô gyda dim ond Pafiliwn y Dwyrain, y Stablau a Thŵr y Bwa yn dal yn gyfan. Mae'r adeiladau hyn sy'n weddill yn dal i gael eu defnyddio, ac maent wedi eu rhestru fel Adeilad Rhestredig Gradd 2.

Daeth bywyd newydd i’r adeiladau fel Clwb pan agorwyd y cwrs golff ym mis Gorffennaf 1936 gan y Parch. Hugh Jenner, Llywydd a chymwynaswr cyntaf y Clwb dros nifer o flynyddoedd. Bu i ddyfodiad yr Ail Ryfel Byd effeithio ar y Clwb a cymrwyd amser iddi adennill ei thir at ddibenion golff a dim ond ym 1956 y dechreuwyd defnyddio'r 18 twll i gyd eto. Erbyn 1958 roedd cyflenwad dŵr wedi'i osod i bob grîn.[5]

Canolfan golffio

Dewiswyd Castell Gwenfô fel lleoliad Clasur Cymru cyntaf 1979 a gyflwynwyd fel rhan o Daith Golff Proffesiynol Ewrop. Roedd y digwyddiad yn cynnwys y rhan fwyaf o golffwyr gorau Ewrop gan gynnwys Tony Jacklin, Nick Faldo, Brian Barnes, Bernhard Gallagher, Bob Charles, Christy O’Connor Jnr., Sandy Lyle, a Mark James.[5]

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

  1. Country Life. Country Life, Limited. Medi 1972. t. 614. Cyrchwyd 27 Rhagfyr 2012.
  2. Hunter Publishing, Incorporated (1 Chwefror 2001). The Golf Guide: Where to Play and Where to Stay in Britain and Ireland. Hunter Publishing, Incorporated. t. 461. ISBN 978-1-58843-109-7. Cyrchwyd 27 Rhagfyr 2012.
  3. "Golf: Castle clash for Pont in shield.(Sport)". Western Mail. 20 Gorffennaf 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mawrth 2016. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2012.
  4. The Estates Gazette. Ebrill 1975. t. 270. Cyrchwyd 27 Rhagfyr 2012.
  5. 5.0 5.1 "History of the Club". Gwefan CGCG. Cyrchwyd 17 Hydref 2024.

51°26′12″N 3°16′23″W / 51.43667°N 3.27306°W / 51.43667; -3.27306

Eginyn erthygl sydd uchod am golff. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.