Priffordd yn ne Cymru yw'r A4050. Mae tua 10 milltir o hyd, ac yn cysylltu Y Barri a Croes Cwrlwys ar gyrion de-orllewinol Caerdydd, gan fynd trwy bentref Gwenfô.
Dechreua'r ffordd mewn cyffordd gyda'r priffyrdd A48 ac A4232. Wedi mynd trwy ran orllewinol y Barri, mae'n gorffen mewn cyffordd gyda'r A4055 gerllaw yr harbwr. Gyda'r A4226, mae'n gyswllt pwysig rhwng dinas Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd.