Clwb criced yw Clwb Criced Swydd Gaerhirfryn (Saesneg: Lancashire County Cricket Club), sy'n un o'r 18 tîm sirol sy'n chwarae ym mhencampwriaeth y siroedd.
Ffurfiwyd y clwb ar 12 Ionawr 1864, mewn cyfarfod yn y Queen’s Hotel, Manceinion. Mae'r tîm yn chwarae yn stadiwm Old Trafford, stadiwm sy'n dal 19,000 o gefnogwyr.[1]
Maent wedi ennill pencampwriaeth y siroedd ym 1897, 1904, 1926, 1927, 1928, 1930, 1934, 1950, a 2011.