Ffilm gomedi Americanaidd yw Clueless (1995). Mae'r ffilm yn seiliedig ar nofel Jane Austen Emma ond lleolir y ffilm mewn ysgol uwchradd yn Beverley Hills. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd y ffilm gan Amy Heckerling a chafodd ei chynhyrchu gan Scott Rudin. Rhyddhawyd y ffilm yn Unol Daleithiau America ar 19 Gorffennaf 1995. Mae'n serennu Alicia Silverstone, Paul Rudd, Jeremy Sisto, Stacey Dash, Donald Faison, Brittany Murphy a Dan Hedaya.
Bellach, mae gan y ffilm, a oedd mewn nifer o ffyrdd yn adlewyrchu'r genhedlaeth a bortreadwyd ynddi, statws eiconig o fewn ei genre ac arweiniodd at gyfres deledu a llyfrau.
Cymeriadau