Mae Corfforaeth Paramount Pictures yn gwmni cynhyrchu a dosbarthu ffilmiau Americanaidd sydd wedi'i leoli yn Melrose Avenue yn Hollywood, Califfornia. Sefydlwyd y cwmni ym 1912 a dyma yw'r stiwdio ffilmiau hynaf yn Hollywood gan guro Universal Studios o fis. Mae Paramount yn eiddo i'r cydglymiad cyfryngol Viacom.