Chwarel lechi yng Nghorris Uchaf, Gwynedd, oedd Chwarel Braich Goch. (neu Braichgoch). Hi oedd y fwyaf o chwareli Corris. Mae rhan o’r hen weithfeydd yn awr yn atyniad i dwristiad dan yr enw “Labyrinth y Brenin Arthur”.
Yn 1787, cymerodd David Williams les ar yr hawliau cloddio ar diroedd Gaewern a Braich Goch gan John Edwards, oedd yn cynrychioli ystad Vanes. Ni does sicrwydd pryd yn union y dechreuwyd gweithio’r chwarel, ond gwyddir ei bod yn cynhyrchu llechi erbyn 1812.
Yn Gaewern yr oedd y cloddio cynnar, a dim ond yn 1836 y dechreuodd cloddio ar safle Braich Goch ei hun, gan y North Wales Slate & Slab Company. Ymestynwyd y les yn 1838, ac yn 1840 adeiladwyd inclen. Trosglwyddwyd y les i Arthur Coulston yn 1843 .
Aeth y chwarel yn y Gaewern i drafferthion, ac yn 1848 daeth y Merionethshire Slate Company i ben yn dilyn darganfod anghysondebau yn ei cyfrifon. Trosglwyddwyd y safle i gwmni Alltgoed Consols, perchenogion Chwarel Ratgoed, ac ail-agorwyd y chwarel.
Yn 1851 ceisiwyd ail-ffurfio’r North Wales Slate & Slab Company fel y Braich Goch Slate & Slab Company, ond methwyd cael dogon o fuddsoddwyr. Prynwyd y cwmni gan John Rowlands, perchennog chwareli Gaewern a Ratgoed trwy Alltgoed Consols. Erbyn 1856 roedd cyfranddalwyr Alltgoed Consols yn mynegi anfodlonrwydd ynghylch y diffyg elw o’r dair chwarel.
Agorwyd Tramffordd Corris yn 1859 i gysylltu ardal Corris a Machynlleth ac Afon Dyfi. Prynodd teulu Birley y les ar y chwareli oddi wrth Rowlands, a ffurfio cwmni Braich Goch Slate Quarry Ltd.. Parhaodd Rowlands i redeg Gaewern, ond gwerthodd y chwarel yma i’r Talyllyn Slate Company yn 1868. Erbyn y flwyddyn honno roedd Braich Goch yn cyflogi dros 200 o weithwyr.
Caewyd Braich Goch yn 1971, a phan wnaed gwaith i wella’r ffordd trwy Gorris yn 1983 adferwyd y rhan fwyaf o’r gweithfeydd ar yr wyneb i gyflwr naturiol. Adeiladwyd Canolfan Grefft Corris ar y safle, tra datblygwyd rhan o’r gweithfeydd tanddaearol fel "Labyrinth y Brenin Arthur", lle rhoddir cyflwyniadau clyweledol i dwristiaid.
Llyfryddiaeth
- Alun John Richards, Slate Quarrying at Corris (Gwasg Carreg Gwalch, 1994)