Gitarydd, canwr, a chyfansoddwrAmericanaidd oedd Charles Edward Anderson "Chuck" Berry (18 Hydref1926 – 18 Mawrth2017).[1] Roedd yn gerddor poblogaidd iawn ac yn cael ei ystyried fel un o arloeswyr roc a rôl. Ymhlith ei ganeuon enwocaf mae "Johnny B. Goode", "Roll Over Beethoven", "You Never Can Tell", "Rock and Roll Music", My Ding a Ling" a "Route 66".
Fe'i ganwyd yn St. Louis, Missouri. Cafodd ei addysg yn yr ysgol Sumner. Aeth i garchar am ysbeiliad tra dal yn yr ysgol. Priododd Themetta "Toddy" Suggs ar 28 Hydref 1948.