Chennai
Prifddinas talaith Tamil Nadu, yn ne-ddwyrain India, yw Chennai (hen enw: Madras), sy'n ganolfan weinyddol Rhanbarth Chennai. Er mai'r enw Tamil Chennai yw'r enw swyddogol heddiw mae llawer o bobl yn y ddinas ac yn India ei hun yn dal i ddefnyddio'r hen enw adnabyddus, Madras. Ei phoblogaeth yw tua 6 miliwn (1999). HanesMae Madras yn ddinas a phorth prysur ar Arfordir Coromandel ar Fae Bengal. Cafodd ei sefydlu yn 1639 gan Gwmni Prydeinig Dwyrain India ar dir a roddwyd gan Raja Chandragiri, yr olaf o reolwyr Vijayanagar Hampi. Tyfodd y ddinas o gwmpas Caer St Siôr sydd bellach yn gartref i swyddfeydd y llywodraeth daleithiol. Sefydlwyd Prifysgol Madras yn 1857. Economi a diwylliantMae Chennai yn ganolfan masnach a chludiant. Chennai yw prif ganolfan adeiladu ceir India; fe'i gelwir weithiau "Detroit India" o'r herwydd. Dim ond ychydig o atyniadau hanesyddol sydd yn y ddinas ond mae ganddi ddiwylliant bywiog a diddorol. Un o ganolfannau busnes pwysicaf Chennai yw Parry's Corner, pencadlys cwmni a sefydlwyd gan y Cymro Thomas Parry ar ddiwedd y 18g. Adeiladau a chofadeiladau
Enwogion
Dolenni allanol
Information related to Chennai |