Charles James Fox |
---|
|
Ganwyd | 24 Ionawr 1749 Westminster |
---|
Bu farw | 13 Medi 1806 Chiswick |
---|
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | gwleidydd, hanesydd, diddymwr caethwasiaeth |
---|
Swydd | Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 13eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 15fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 16eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 17eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, Arweinydd y Tŷ Cyffredin |
---|
Plaid Wleidyddol | Chwigiaid |
---|
Tad | Henry Fox |
---|
Mam | Caroline Fox |
---|
Priod | Elizabeth Armtistead |
---|
Partner | Mary Robinson |
---|
Plant | mab anhysbys Fox |
---|
Gwleidydd o Loegr oedd Charles James Fox (24 Ionawr 1749 – 13 Medi 1806) a fu'n un o wladweinyddion enwocaf Teyrnas Prydain Fawr yn yr oes Sioraidd. Fe'i cofir fel prif gynigydd diwygiadau rhyddfrydol ac yn areithiwr medrus yn Senedd Prydain Fawr yn niwedd y 18g, yn ogystal ag am y ffaith taw efe oedd Ysgrifennydd Tramor cyntaf y deyrnas. Gwasanaethodd yn Arglwydd y Morlys (1770–72), Arglwydd y Trysorlys (1773–4), ac Ysgrifennydd Tramor deirgwaith (1782, 1783, 1806).
Ganed ef yn Llundain, yn ail fab i'r Arglwydd Holland, a chafodd ei addysg yng Ngholeg Eton ac ym Mhrifysgol Rhydychen. Fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol dros Midhurst, sedd a brynwyd ar ei gyfer gan ei dad, ym 1768. Tyfodd i fyny yn anfoesol ac afradlon. Cefnogodd weinyddiaeth Grenville yn ei mesurau gwaethaf, a gwobrwywyd ef â'r swydd o Arglwydd y Morlys, yr hon a roddodd i fyny ym 1772. O ganlyniad i anghytundeb a fu rhyngddo ef a'r Arglwydd North, ymunodd Fox â'r wrthblaid, a bu yn wrthwynebydd cryf i'r llywodraeth tra y parhaodd Rhyfel Annibyniaeth America (1775–83). Ym 1780, etholwyd ef dros Westminster, yr hon a gynrychiolodd ym mron yn ddi-dor hyd ei farwolaeth.
Wedi dal swydd fel Ysgrifennydd Tramor am ennyd, ymgysylltodd â North, a chymerodd y ddau swydd yng ngweinyddiaeth y Dug Portland. Pan ddaeth William Pitt yr Ieuengaf i awdurdod, ymgymerodd Fox ag arwain yr wrthblaid, a bu ymdrech faith rhwng y ddau gydymgeisydd galluog ac enwog hyn. Rhoddodd Mesur y Rhaglawiaeth, prawf hynod Warren Hastings, a'r Chwyldro Ffrengig—tri chwestiwn mawr ar y pryd—fantais ddigyffelyb i Fox ddangos ei dalentau a'i huodledd.
Pan fu farw Pitt, ym 1806, daeth eto yn Ysgrifennydd Tramor, a thra yn y swydd hon, cychwynnodd gyflafareddiad am heddwch â Ffrainc, ac ymdrechodd ei orau i ddiddymu caethwasiaeth. Bu farw yn 57 oed, a chladdwyd ef yn Abaty Westminster. Fel areithydd, safai yn y radd flaenaf, ac mewn parodrwydd, eglurder, a chyfiawnder yr oedd efe yn ddigymar. Ystyriai Edmund Burke ef "fel y dadleuydd pennaf a welodd y byd erioed". Llysenw arno oedd the Young Cub.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Thomas Benfield Harbottle, Dictionary of Historical Allusions (Llundain: Swan Sonnenschein & Co, 1903), t. 280.