Pentref yng nghymuned Y Faenor, bwrdeisdref sirol Merthyr Tudful, Cymru, yw Cefn Coed y Cymer, neu Cefncoedycymer[1] neu Cefn-coed-y-cymmer.[2] Saif fymryn i'r gogledd-orllewin o dref Merthyr Tudful, ar y briffordd A4054. I'r de o'r pentref, gerllaw Castell Cyfarthfa, mae Afon Taf Fawr ac Afon Taf Fechan yn ymuno i greu Afon Taf.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Gerald Jones (Llafur).[4]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau