Lleolir Castell Windsor yn nhref Windsor, Berkshire, De-ddwyrain Lloegr; dyma'r castell cyfannedd mwyaf yn y byd. Mae'n dyddio'n ôl i oes Gwilym Gwncwerwr, a hwn yw'r castell hynaf i gael ei gyfanheddu'n barhaol. Mae'n un o gestyll enwocaf y byd. Mae arwynebedd llawr y castell yn mesur tua 484,000 troedfedd sgwar (tua 45,000 medr sgwar).