Mae'r calendr Hebreaidd (הלוח העברי ha'luach ha'ivri), neu'r calendr Iddewig, yn galendr lloerheulol a gaiff ei ddefnyddio heddiw fel arfer mewn cysylltiad â chysyniadau crefyddol. Defnyddir y calendr hwn i bennu gwyliau Iddewig a pha bryd y darllenir y Torah yn gyhoeddus a dyddiadau yahrzeits pan gofir am farwolaeth perthynas. Yn Israel, mae'n galendr swyddogol a ddefnyddir at bwrpas dinesig a hyd yn oed fel canllaw amser ar gyfer amaethu.
Enwau'r misoedd
Daw enwau'r misoedd a geir yn y calendr Hebreaidd o Fabilon yn wreiddiol. Dechreuodd yr Iddewon eu defnyddio yn ystod eu halltudiaeth yn 6g cyn Crist.
- ניסן (Nisan)
- אייר (Iyar)
- שיון (Sifan)
- טמוז (Tamws)
- אב (Af)
- אלול (Elwl)
- תשרי (Tishrei)
- מרחשון (Marcheshfan)
- כסלו (Cislef)
- טבת (Tefet)
- שבט (Shfat)
- אדר (Adar; Adar I ac Adar II mewn blwyddyn naid)
Rhifo blynyddoedd
Y cyfnod a ddefnyddir ar gyfer y calendr Hebreiadd ers yr Oesoedd Canol yw Anno Mundi (Lladin: "ym mlwyddyn y byd"; Hebraeg: לבריאת העולם , "o greadigaeth y byd"). Cyfnod yr oes hon yw'r foment pan grëwyd y byd, yn ôl Llyfr Genesis. Felly mae rhif y flwyddyn yn 3760 neu 3761 yn fwy na'r flwyddyn gyfatebol yng nghalendr Gregori.
Yn yr un modd ag Anno Domini (AD), dylai'r geiriau neu'r talfyriad ar gyfer Anno Mundi (AM) ragflaenu'r dyddiad yn iawn yn hytrach na'i ddilyn.
Mae blwyddyn safonol yn y calendr hwn yn cynnwys 12 mis; chwe mis â 29 diwrnod, a chwe mis â 30 diwrnod, gan wneud cyfanswm o 354 diwrnod. Mae hyn oherwydd bod y misoedd yn cael eu cyfrif yn ôl cylchro'r lleuad, sef tua 29.5 diwrnod. Fodd bynnag, mewn blynyddoedd naid gall y flwyddyn fod â 353 neu 355 o ddiwrnodau. Felly dechreuodd AM 5783 ar fachlud haul 25 Medi 2022 a bydd yn dod i ben ar fachlud haul ar 15 Medi 2023.
Dolen allanol