Tîm pêl-droed yw Cae Glyn United, sy'n dod o ardal Maesincla, Caernarfon, Gwynedd. Mae'r gemau yn cael eu chwarae yn y cae a elwir yn "Cae Glyn" sydd wrth ymyl yr orsaf heddlu lleol.
Y Clwb yn dathlu
Mae wedi bodoli ers 1969 ac yn dathlu 50 mlynedd yn 2019 ac fe gychwynnodd gan ddyn lleol, Bobby Wroe, fu farw yn 84 mlwydd oed yn 2012. Mae yna nifer o dimau, ac yn cychwyn o dan 6 i fyny at 16 mlwydd oed. Mae’r cae chwarae lleol yn safle gwych er mwyn cael ymarferion, gemau cystadleuol a gemau wythnosol y gynghrair – cynghrair Gwyrfai. Mae angen tâl aelodaeth am flwyddyn sydd yn £30, am y pris rydych yn cael cit, sesiynau wythnosol o ymarfer sgiliau a chwarae yn ogystal â hyfforddwyr ddeallus a dawnus. Mae rheolwyr/hyfforddwyr gyda ‘DBS’ ac yn adnabod yn ogystal â bod yn ffrindiau mawr gyda’r chwaraewyr/rhieni. Mae yn gyfle gwych i fechgyn a genethod yr ardal i gadw yn heini, gwneud ffrindiau ac i chwarae un o chwaraeon mwyaf poblogaidd y byd. Mae yna dwrnament blynyddol yn cael ei gynnal ar gae Ysgol Syr Hugh Owen gyda thimau o agos ac o ochrau Manceinion, Lerpwl, Caer a Wrecsam yn dod i gystadlu yn erbyn ei gilydd. Cadeirydd y tîm ydi Barry Evans sydd yn digwydd bod yn reolwr y tîm dan 14 ac yn rhoi cyflwyniad i'r tîm pob blwyddyn tu mewn I'r Ofal er mwyn diolch i'r chwaraewyr, rhieni a’r rheolwyr am eu cefnogaeth a’r llwyddiant. Ysgrifennydd y tîm yw Tim Grubb ers blynyddoedd. Mae Cae Glyn United yn rhannu yr un dref gyda’u gystadleuwyr - Segontiwm Rovers mae yno cyffro mawr bob tro maent yn chwarae oherwydd mae yna ddigon o goliau yn cael eu sgorio.
Y Cit
Cit Cae Glyn ydy siorts du, sanau du a coch a thop llewys hir gyda streipiau coch a du. Mae gan y logo lun castell syml yn y cefndir a llun pêl-droed yn y canol, ac enw y tîm mewn cylch o’i amgylch – Clwb Pêl-droed Ieuenctid Cae Glyn United.