Ffermwr a gwleidydd Cymreig, ac aelod o'r Blaid Geidwadol, oedd Brynle Williams (9 Ionawr 1949 – 1 Ebrill 2011). Bu'n Aelod Cynulliad dros Ranbarth Gogledd Cymru o 2003 hyd ei farwolaeth yn 2011.
Bu'n flaenllaw iawn yn ei gefnogaeth i yrwyr loriau a oedd yn gwrthwynebu codiadau ym mhrisiau tanwydd yn 2000 (Protestiadau Stanlow) a chyn hynny yn y frwydr gan amaethwyr yn erbyn mewnforio cig eidion i Wledydd Prydain drwy borthladd Caergybi.[1]
Cyfeiriadau