Mae Bro Sant-Maloù weithiau hefyd Bro Sant-Maloù (Ffrangeg: Pays Saint Malo) yn un o naw "bro" hanesyddol Llydaw. Tref a phorthladd enwog Sant Malo yw prif ddinas y fro. Mae'r enw hwn hefyd yn cyfateb i strwythur grwpio awdurdodau lleol Ffrainc.
Cyflwyniad
Roedd y fro hanesyddol yn cynnwys ardal o 3,931 km2, wedi'i lleoli rhwng Départements presennol Il-ha-Gwilen (Ille-et-Vilaine), Aodoù-an-Arvor (Côtes-d'Armor), Mor-Bihan (Morbihan). Roedd ganddi boblogaeth o 360,910 yn 2012.[1]
Ceid tair is-fro neu tiriogaethau hanesyddol oddi fewn i Fro Sant Malo: Poualed, Poudour ha Porc'hoed.
↑Mae'r faner yn cynrychioli draig goch wedi'i gosod ar groes ddu ar gefndir melyn. Y groes ddu ar gefndir melyn oedd arwyddlun Sant Erwan. Y ddraig oedd arwyddlun Sant Tudwal, un o saith sant sylfaenwyr Llydaw. Hynodrwydd y ddraig: nid oes ganddi goesau ôl, mae rhan gefn gyfan y corff yn cynrychioli cynffon anifail morol gwych.