Cantores bop o Gymraes yw Bonnie Tyler, MBE (ganwyd Gaynor Hopkins; 8 Mehefin1951) sy'n adnabyddus am ei llais pwerus a chryg.
Bywyd cynnar
Ganwyd Gaynor Hopkins yn Sgiwen ger Castell Nedd, i'r glöwr Glyndwr a'r wraig tŷ Elsie Hopkins.[1] Fe'i magwyd mewn tŷ cyngor pedwar stafell wely gyda thair chwaer a dau frawd.[1] Roed gan ei brodyr a chwiorydd gyda chwaeth eang ewn cerddoriaeth, gan ei cyflwyno i artistaid fel Elvis Presley, Frank Sinatra and the Beatles.[2] Roedd Hopkins a'i theulu yn Brotestaniaid crefyddol iawn.[1] Perfformiodd yn gyhoeddus am y tro cyntaf fel plentyn yn y capel, yn ganu yr emyn Anglicanaidd "All Things Bright and Beautiful".[3]
Gadawodd ysgol heb gymwysterau ffurfiol a cychwynodd weithio mewn siop groser.[4] Yn 1969, cystadlodd mewn cystadleuaeth ddoniau lleol ac ar ôl dod yn yr ail safle, cafodd ei ysbrydoli i ddilyn gyrfa fel cantores.[5] Drwy ymateb i hysbyseb papur newydd, cafodd waith fel cantores cefndir i Bobby Wayne & the Dixies cyn ffurfio ei band soul ei hunan o'r enw Imagination.[6] Tua'r adeg hyn y newidiodd ei henw llwyfan i Sherene Davis, i osgoi cael ei drysu gyda'r gantores werin Mary Hopkin.[7]
Gyrfa
Ar ôl blynyddoedd o ganu yn nhafarnau a chlybiau (gyda'r darlledydd Chris Needs yn cyfeilio iddi yn y dyddiau hynny) cyrhaeddodd 10 uchaf senglau Prydain ym 1975 gyda'r gân Lost in France.
Daeth uchafbwynt ei gyrfa yn 1983 wrth iddi recordio albwm Faster Than The Speed of Night, a'r sengl Total Eclipse of the Heart gan Jim Steinman arno. Aeth y ddau i rif 1 y siartiau pop ym Mhrydain. Roedd Total Eclipse of the Heart yn llwyddiant masnachol rhyngwladol.
Heddiw mae ganddi dŷ yn y Mwmbwls ger Abertawe ond mae'n treulio llawer o'r flwyddyn ym Mhortiwgal.