Cantores bop a gwerin o Gymru yw Mary Hopkin (ganwyd 3 Mai1950). Mae hi’n cael ei hadnabod yn bennaf o’r sengl rhif un 1968 “Those Were the Days”. Roedd hi’n un o’r cantorion cyntaf i ymuno â label y Beatles, Apple.
Gyrfa cynnar
Fe'i ganwyd ym Mhontardawe, lle chymherodd hi wersi canu’n wythnosol a cychwynodd ei gyrfa fel cantores werin gyda grŵp lleol o’r enw the Selby Set and Mary. Rhyddhaodd ei record gyntaf, "Llais Swynol", yn Gymraeg ar label Recordiau Cambrian, cwmni o Bontardawe gan recordio sengl gyda Edward Morus Jones (oedd wedi canu deuawd gyda Dafydd Iwan ar sawl un o'u recordiau. Wedi hynn ymunodd Mary ag Apple Records, oedd yn cael ei reoli gan y Beatles. Gwelodd y model Twiggy hi’n ennill y sioe dalent Prydeinig ‘’Opportunity Knocks’’ ac argymhellodd hi i Paul McCartney.[1]
Cynhyrchwyd ei sengl cyntaf, “Those Were the Days” gan McCartney, a gafodd ei ryddhau ym Mhrydain ar Awst 30, 1968. Er gwaethaf cystadleuaeth gan gantores sefydlig Sandie Shaw, a oedd wedi rhyddhau sengl yr un flwyddyn, daeth Hopkin yn hit rhif un ar siart senglau’r DU.[2] Cyrhaeddodd y gân hefyd rif dau ar Billboard Hot 100 yr UDA, lle roedd wedi ei gadw am tair wythnos o’r brig gan “Hey Jude” y Beatles[3], ac am bythefnos, roedd ar rif un siartiau senglau RPM Canada. Gwerthodd 1,500,000 o gopïau yn yr UDA yn unig ac fe’i ddyfarnwyd y disc aur gan yr RIAA. Roedd gwerthiannau byd-eang dros 8,000,000.[4]
Lansiwyd albwm cyntaf Hopkin, "Postcard", a oedd eto wedi cael ei chynhyrchu gan McCartney, ar Chwefror 21, 1969. Roedd yn cynnwys tair cân a oedd yn wreiddiol gan Donovan, ac un gân yr un gan George Martin a Harry Nilsson. Cyrhaeddodd rhif 3 ar siartiau albymau'r DU[2] ac yn UDA, cyrhaeddodd Postcard rif 28 ar siart albymau Billboard.[3]
Ei sengl nesaf oedd "Goodbye", wedi'i ysgrifennu gan McCartney (clodrestrir Lennon-McCartney), a gafodd ei ryddhau ar Mawrth 26, 1969.[7] Cyrhaeddodd rif 2 ar Siartiau Senglau'r DU,[2] lle roedd yn cael ei gadw o'r brig gan "Get Back" y Beatles, rhif 13 ar Billboard Hot 100,[7] a rhif 15 ar siart RPM Canada.[8] Dywedodd Hopkin ei bod yn dehongli "Goodbye" fel McCartney yn addo peidio â dal ati i reoli mân fanylion ei gyfra, gan ei bod yn anghyfforddus gyda'r ffordd yr oedd o'n ei diffinio fel cantores bop.[9] Dangosodd hi hefyd anfodlonrwydd gyda'i rheolwr ar yr adeg, Terry Doran.
Roedd trydydd sengl Hopkin, "Temma Harbour", yn ail-drefniant o gân gan Philamore Lincoln. Hwn buasai'i sengl cyntaf nad oedd wedi cael ei gynhyrchu gan McCartney,[10] ac fe'i rhyddhawyd ar Ionawr 16, 1970, gan gyrraedd rhif 6 yn y DG a rhif 42 yng Nghanada.[8] Yn UDA, cyrhaeddod rhif 39 ar y Billboard Hot 100, a rhif 4 ar siart y cylchgrawn Easy Listening[11]. Gyda Donovan a Billy Preston, roedd Hopkin yn un o gantorion cytgan a sengl 1970 Radha Krishna Temple, "Govinda", oedd wedi cael ei gynhyrchu gan George Harrison i Recordiau Apple.[12]
Priododd Tony Visconti ym 1971; ysgaron nhw ym 1981.