Bilbo
Bilbo Math bwrdeistref Sbaen
Prifddinas Bilbao Poblogaeth 348,089 Sefydlwyd 1300 Pennaeth llywodraeth Juan María Aburto Cylchfa amser UTC+01:00 Gefeilldref/i Rosario,
Buenos Aires ,
Bordeaux ,
Tbilisi ,
Pittsburgh , Moyobamba, Surakarta, Medellín, Sant Adrià de Besòs,
Valparaíso ,
Qingdao ,
Liège ,
Monterrey Nawddsant Iago fab Sebedeus Iaith/Ieithoedd swyddogol Basgeg , Sbaeneg Daearyddiaeth Lleoliad Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg Sir Bilboaldea Gwlad Gwlad y Basg Sbaen Arwynebedd 41.6 km² Uwch y môr 19 ±1 metr Gerllaw Estuary of Bilbao Yn ffinio gyda Alonsotegi, Arrigorriaga, Barakaldo , Basauri , Erandio, Galdakao, Sondika, Zamudio, Derio, Etxebarri Cyfesurynnau 43.2631°N 2.935°W Cod post 48001–48015 Swydd pennaeth y Llywodraeth mayor of Bilbao Pennaeth y Llywodraeth Juan María Aburto
Mae Bilbo (Sbaeneg: Bilbao ) yn borthladd ac yn ddinas fwyaf Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg a Gwlad y Basg trwyddi draw. Bilbo yw prifddinas talaith Bizkaia . Poblogaeth y ddinas yw 348,089 (2024) . Mae Afon Nerbioi (Nervión ) yn llifo drwy'r ddinas, ac yn ystod y chwyldro diwydiannol , dyma ddaeth a thwf a chyfoeth i'r ddinas.
Dosbarthiadau'r ddinas
Mae dinas Bilbao wedi ei rhannu'n wyth dosbarth gwahanol, sy'n cynnwys y cymdogaethau canlynol:
Lleoliad dosbarthiadau trefol a'r cymdogaethau
Dosbarth 1 (Deusto) : Deusto, San Ignacio , Ibarrekolanda , Arangoiti , Ribera de Deusto/Zorrozaurre
Dosbarth 2 (Uribarri) : Uribarri, Matiko , Castaños , Zurbaranbarri a Ciudad Jardín
Dosbarth 3 (Otxarkoaga-Txurdinaga) : Otxarkoaga a Txurdinaga
Dosbarth 4 (Begoña) : Begoña, Santutxu a Bolueta
Dosbarth 5 (Ibaiondo) : Casco Viejo , Bilbao La Vieja , San Francisco , Zabala , Atxuri , Iturrialde , Solokoetxe , Abusu a chymdogaeth newydd Miribilla .
Dosbarth 6 (Abando) : Abando and Indautxu .
Dosbarth 7 (Rekalde) : Rekalde, El Peñascal , Ametzola , Iralabarri a San Adrián ,
Dosbarth 8 (Basurto-Zorrotza) : Basurto , Altamira , Masustegi , Olabeaga a Zorrotza .
Hanes
Rhyfel Cartref Sbaen : Rhan o flwyddyn gyntaf rhyfel Sbaen oedd morgae Bilbao neu Bilbo. Fe'i godwyd ar 20 Ebrill 1937 gan y llong ager Seven Seas Spray , o dan Capten W.H.Roberts o Benarth. Roedd y llong wedi ei chofrestru yng Nghaerdydd, ac yn cario 4000 tunnell o fwyd i bobl newynog y ddinas.[ 1]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau